Cynhelir digwyddiad ar-lein mewn partneriaeth â Busnes Cymru ddydd Mercher 24 Mawrth o 10am tan hanner dydd er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth am gyfleoedd posibl sydd i ddod ar gyfer busnesau o bob maint yn y sectorau adeiladu, peirianneg fecanyddol a gwasanaethau.

Bydd cynrychiolwyr o sefydliadau partner y Fargen Ddinesig wrth law i siarad am eu rhaglenni a'u prosiectau, gan amlinellu pa gontractau y maent yn disgwyl eu dyfarnu a phryd.

Bydd Busnes Cymru a GwerthwchiGymru hefyd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cymorth sydd ar gael i fusnesau sydd â diddordeb mewn tendro am gyfleoedd pan fyddant ar gael.

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Cadeirydd Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe: “Mae llawer o raglenni a phrosiectau'r Fargen Ddinas yn symud o waith cynllunio achos busnes manwl i'r cam cyflawni, sy'n rhoi cyfle mawr i fusnesau rhanbarthol elwa ar gontractau a fydd yn cael eu dyfarnu cyn hir.

“Bydd y digwyddiad hwn yn rhoi cyfle i holl bartneriaid y Fargen Ddinesig ymgysylltu â'r gymuned fusnes yn gynnar yn y broses nid yn unig i roi gwybod iddynt am gyfleoedd sy'n gysylltiedig â'r Fargen Ddinesig yn 2021, ond hefyd eu cyfeirio at y cymorth sydd ar gael ar gyfer tendro.

“Bydd buddsoddiad y Fargen Ddinesig, sydd werth o leiaf £1.8 biliwn a dros 9,000 o swyddi i'r Ddinas-ranbarth yn y blynyddoedd i ddod, yn helpu i gyflymu’r adferiad economaidd rhanbarthol yn dilyn Covid-19, ac yn gadael gwaddol hirdymor i'n trigolion a'n busnesau.

“Mae contractau gwerth tua £250 miliwn ar y gweill ar gyfer 2021, felly byddwn yn annog busnesau rhanbarthol i gofrestru ar gyfer y digwyddiad ar-lein hwn i gael gwybod rhagor.”

Dylai busnesau sydd â diddordeb mewn cofrestru ar gyfer y digwyddiad - a gynhelir drwy Microsoft Teams - ymweld â https://wales.business-events.org.uk/cy/digwyddiadau/bargen-ddinesig-bae-abertawe-cyfleoedd-tendro-yn-2021/ i archebu lle.

Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn fuddsoddiad o hyd at £1.3 biliwn mewn portffolio sy’n cynnwys naw o  raglenni a phrosiectau mawr yn Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe.

Mae rhaglenni a phrosiectau'r Fargen Ddinesig yn cynnwys Pentre Awel yn Llanelli, Yr Egin yng Nghaerfyrddin, Ardal Forol Doc Penfro, Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a'r Glannau, Cefnogi Arloesedd a Thwf Carbon Isel yng Nghastell-nedd Port Talbot, a chynllun Campysau Gwyddor Bywyd, Llesiant a Chwaraeon yn Abertawe.

Mae hefyd tair rhaglen a phrosiect yn cwmpasu Dinas-ranbarth Bae Abertawe yn gyffredinol: Seilwaith Digidol, Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer, a Sgiliau a Thalent.

Yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a'r sector preifat, mae'r Fargen Ddinesig yn cael ei harwain gan Gyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro, a Chyngor Abertawe, mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Abertawe, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.