Oherwydd cyfyngiadau o ganlyniad i Covid-19, dathlodd arweinwyr gwleidyddol a busnes y garreg filltir yn ddigidol.

Mae'r arena dan do â 3,500 o seddi ar safle ger yr LC yng nghanol dinas Abertawe yn rhan o gam un ardal Bae Copr sy'n cael ei chyflawni gan Gyngor Abertawe a'i hariannu gan y cyngor, Llywodraeth Cymru a Bargen Ddinesig Bae Abertawe.

Mae Buckingham Group Contracting yn adeiladu'r arena dan do a fydd yn cael ei gweithredu gan Ambassador Theatre Group (ATG). Mae'n edrych yn debygol y bydd yr atyniad - a fydd yn cynnal cyngherddau, cynadleddau, arddangosfeydd a digwyddiadau eraill - yn agor yn ôl y disgwyl yn ail hanner 2021.

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe a Chadeirydd Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe: "Mae hon yn foment allweddol yn y gwaith o drawsnewid y safle hwn ac adfywiad canol dinas Abertawe gwerth £1 biliwn.

"Mae'r sectorau preifat a chyhoeddus yn cefnogi Abertawe gyda syniadau, arian a chamau gweithredu - a gall pobl ar draws ein cymunedau fod yn hyderus yn nyfodol y ddinas.

"Mae canol dinas Abertawe yn prysur ddod yn lle gwych i fyw, gweithio, astudio a chwarae.

"Er bod hon yn foment bwysig, fe wnaethom ystyried y pandemig a dewis cynnal y digwyddiad yn rhithwir yn hytrach na chynnal digwyddiad traddodiadol."

Mae'r arena dan do hefyd yn rhan o raglen Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a'r Glannau sy'n cael ei hariannu'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe sy'n werth £1.3 biliwn. Mae nodweddion eraill y rhaglen yn cynnwys datblygiad swyddfeydd arloesol ar Ffordd y Brenin ar gyfer busnesau technoleg a digidol, yn ogystal â phentref blychau a rhodfa arloesi ar gyfer cwmnïau newydd ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant SA1.

Yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a'r sector preifat, mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn cael ei harwain gan Gyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro, a Chyngor Abertawe, mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.