Cafodd yr Ŵyl Cylch Rasio 3D, a oedd yn cynnwys 10 o lapiau, ei chynnal yn felodrom Parc Caerfyrddin ddydd Sadwrn, 22 Mehefin. Enillwyr y ras oedd Tîm Citroen o Ysgol Llanllwni.

Defnyddiodd yr holl blant a gymerodd ran argraffydd 3D i greu eu ceir rasio model, yna buon nhw'n gosod y ceir at ei gilydd eu hunain.

Daeth Tîm Ford o Ysgol Teilo Sant yn ail, a daeth Tîm Mazda o Ysgol Gynradd Nantgaredig yn drydydd.

Benthycodd Prifysgol Abertawe argraffydd 3D i bob ysgol a gymerodd ran, a cafodd y ras ei noddi gan nifer o ddelwriaethau ceir lleol.

Torrodd Coleg Peirianneg Prifysgol Abertawe gadwyni drwy ddefnyddio laser ar gyfer pob disgybl a gymerodd ran. Cafodd tlysau eu hargraffu'n 3D hefyd ar gyfer tri thîm ysgol cyflymaf y diwrnod.

Cafodd microsglodyn â'r gallu i amseru ei osod ar bob car model er mwyn monitro perfformiad.

Dywedodd Dr Dimitris Pletsas o Goleg Peirianneg Prifysgol Abertawe: "Roedd digwyddiad y Cylch Rasio 3D yn llwyddiant ysgubol, ac yn dangos gwaith caled disgyblion a staff o wyth ysgol gynradd yn Sir Gaerfyrddin a gymerodd sawl mis i baratoi ar gyfer y ras.

"Nid hwyl yn unig oedd y digwyddiad. Roedd yn addysgol hefyd oherwydd cyflwynodd yr amser paratoi dechnoleg argraffu 3D i'r plant, sydd ymhlith technolegau o'r radd flaenaf sydd ar fin trawsnewid gweithgynhyrchu ledled y byd.

"Ynghyd â dysgu sgiliau marchnata a gweithio mewn tîm, does dim amheuaeth y bydd dod i gysylltiad gyda'r math hwn o dechnoleg o oedran ifanc o fudd i'r plant yn y dyfodol, gyda chynlluniau megis Bargen Ddinesig Bae Abertawe, sy'n werth £1.3 biliwn, a fydd yn creu miloedd o swyddi i bobl leol yma yn Ne-orllewin Cymru.

"Roedd cyflwyno prosiectau argraffu 3D, fel yr Ŵyl Cylch Rasio 3D yn ysgolion cynradd Sir Gaerfyrddin, yn gynllun peilot llwyddiannus yr hoffem ei weld yn cael ei ailadrodd yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Bydd hyn yn ysbrydoli ysgolion eraill ledled Ewrop i ddod at ei gilydd gyda'r nod o ennyn diddordeb disgyblion mewn peirianneg o oedran ifanc.

"Bydd prosiectau fel hyn yn helpu i sicrhau bod ein hysgolion gwledig yn barod i groesawu'r pedwerydd chwyldro diwydiannol, lle mae peirianneg draddodiadol yn cyfuno â thechnolegau digidol newydd."

Roedd cyfranogwyr eraill y digwyddiad yn cynnwys Tîm Kia o Ysgol y Dderwen, Tîm MG o Ysgol Llanybydder, Tîm Volvo o Ysgol Carreg Hirfaen, Tîm Hyundai o Ysgol y Bedol, a Thîm Subaru o Ysgol Peniel.

Cafodd y digwyddiad ei noddi gan Gyngor Tref Caerfyrddin, a darparodd busnesau lleol fyrbrydau a diodydd ar y diwrnod. Cafodd baneri eu creu ar gyfer pob ysgol a gymerodd ran, ynghyd â rhaglenni'r digwyddiad. 

Roedd y delwriaethau ceir a noddodd y ras yn cynnwys HG Bryer, Dryslwyn; Gravells, Cydweli; J & J Motors, Cross Hands; OC Davies, Caerfyrddin; Bassetts, Caerfyrddin; Lloyd Motors, Aberaeron; John F Hutchings Ltd a Howards, Caerfyrddin.

Roedd pob un o'r ceir model wedi'i seilio ar ddyluniad a gafodd ei greu am y tro cyntaf gan Daniel Norée, sef dylunydd 3D o Sweden sydd wedi ennill gwobrau am ei waith.