Beth yw HAPS?

Mae prosiect HAPS yn rhan o bortffolio Bargen Ddinesig Bae Abertawe (SBCD), prosiect rhanbarthol sy’n cael ei arwain gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot. Nod y prosiect yw sbarduno a chefnogi’r sector tai yn y rhanbarth i fabwysiadu dull gweithredu HAPS trwy Gronfa Cymhellion Ariannol o £5.75m a datblygu cadwyn gyflenwi i gefnogi’r galw am dechnoleg HAPS trwy gronfa bellach o £7m.

Beth yw dull gweithredu HAPS?

Mae dull gweithredu HAPS yn mabwysiadu systemau effeithlon o ran ynni er mwyn lleihau dibyniaeth cartref ar rwydweithiau ynni presennol; mesurau a fydd yn creu cartref mwy llesol i’r amgylchedd a mwy cost-effeithiol i’w gynnal. Yn nodweddiadol bydd hyn yn cynnwys paneli solar PV, pympiau gwres, batrïoedd a systemau awyru mecanyddol i adennill gwres.

Pam mae angen i ni fabwysiadu dull gweithredu HAPS?

Mae angen i ni symud yn gyflym i leihau ein dibyniaeth ar danwydd ffosil i wresogi a chynnal ein cartrefi er mwyn symud tuag at ein nod, sef sero net. Mae ansefydlogrwydd yn y marchnadoedd ynni wedi gwthio miloedd o gartrefi yn y rhanbarth i dlodi tanwydd. Nod prosiect HAPS yw symud miloedd o aelwydydd i ffwrdd oddi wrth systemau gwresogi tanwydd ffosil a lleihau eu biliau ynni yn sylweddol. Trwy ddewis opsiynau glanach a mwy gwyrdd, bydd dull gweithredu HAPS hefyd yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd pobl, yn arbennig llesiant resbiradol.

Pwy fydd yn elwa o brosiect HAPS?

Mae’r prosiect yn uchelgeisiol, a’i nod yw hwyluso mabwysiadu dull gweithredu HAPS mewn 7000 o gartrefi ôl-osod a 3300 o gartrefi newydd sy’n cael eu hadeiladu, ond nid dyna ddiwedd y stori. Bydd prosiect HAPS yn braenaru’r tir ar gyfer mabwysiadu systemau ynni isel ar draws rhanbarth SBCD ac i mewn i Gymru gyfan trwy Gronfa Cymhellion Ariannol gwerth £5.75m. Bydd y data monitro a gesglir trwy HAPS yn hysbysu, yn addysgu ac yn cadarnhau effeithiolrwydd y systemau ynni isel er mwyn cyflymu eu gweithrediad ymhellach yng nghartrefi Cymru, er budd pawb ohonom ni.

Beth yw’r Gronfa Cymhellion Ariannol?

Mae gennym ni £5.75m i annog Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (LCCiaid), Awdurdodau Lleol a datblygwyr a landlordiaid Sector Preifat i osod technoleg mewn cartrefi er mwyn creu tai sy’n lanach, yn fwy gwyrdd, ac yn fwy effeithlon i’w cynnal. Rydym ni’n annog ystod o geisiadau i gynnig cynlluniau ar draws y rhanbarth, ar gamau amrywiol o ran cynllunio a chyflwyno, fel bod modd monitro’r amrywiol fathau o ddarpariaeth, a hynny ar gyfer tai newydd sy’n cael eu hadeiladu a threfniadau ôl-osod. Er mwyn mwyafu’r cyfle ariannu hwn, bydd cyllid HAPS mewn llawer o achosion yn cyd-fynd â llifoedd ariannu eraill ac yn ychwanegu gwerth atynt, ac fe allai hynny gynnwys Rhaglen Optimeiddio Ôl-osod.

Pwy sy’n gymwys ar gyfer Cronfa Cymhellion Ariannol HAPS?

Rhaid i geisiadau ymwneud â thai sy’n rhan o ardal Bargen Ddinesig Bae Abertawe, yn benodol cartrefi sydd â chôd post yng Nghastell-nedd Port Talbot, Abertawe, Sir Gaerfyrddin neu Sir Benfro. I wirio lleoliad eiddo neu ddarn o dir, defnyddiwch y ddolen ganlynol Find your local council - GOV.UK (www.gov.uk)

Beth byddwn ni’n ei ddysgu o brosiect HAPS?

Mae prosiect HAPS wedi comisiynu Ysgol Pensaernïaeth Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd i fonitro a gwerthuso perfformiad technoleg HAPS, i fesur y manteision a wireddwyd o ran lleihau  defnydd o ynni ac arbedion ariannol i’r rhai sy’n byw mewn cartrefi HAPS. Byddwn ni’n cyhoeddi’r data yma er mwyn hysbysu ac annog mwy o unigolion a mentrau i fabwysiadu dull gweithredu HAPS.

Sut gallwch chi ddysgu mwy am HAPS?

Byddwn ni’n cynnal cyfres o ddigwyddiadau i ymgysylltu â phartïon â diddordeb, i lansio’r Gronfa Datblygu Cadwyn Gyflenwi, y gronfa Cymhellion Ariannol, ac i rannu ein canfyddiadau monitro.

Ein cyfeiriad e-bost yw HAPS@npt.gov.uk  

image