Mae'r dyddiad cau sef dydd Llun 23 Medi wedi'i bennu ar gyfer mynegiannau o ddiddordeb gan gynrychiolwyr o'r sectorau digidol, twristiaeth, diwydiannau trwm a microfusnesau.

Gwahoddir datganiadau o ddiddordeb hefyd gan arbenigwyr ym maes trafnidiaeth, manwerthu, bwyd a diod, ynni, gweithgynhyrchu, sgiliau, pobl ifanc a datblygu lleol.

Pan fydd angen, bydd yr ymgynghorwyr arbenigol yn cynghori arweinyddion Bargen Ddinesig Bae Abertawe, gan gynnwys y Cyd-bwyllgor sy'n gwneud penderfyniadau a’r Bwrdd Strategaeth Economaidd sy’n cael ei arwain gan y sector preifat.

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Cadeirydd Cyd-bwyllgor y Fargen Ddinesig: “Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol wrth weithredu argymhellion yr adolygiadau diweddar i'r Fargen Ddinesig, a fydd yn helpu i gyflymu'r broses o'i chyflawni ledled Dinas Ranbarth Bae Abertawe.

“Bydd cymorth ymgynghorwyr arbenigol o ran themâu a sectorau allweddol y Fargen Ddinesig yn Ne-orllewin Cymru yn ategu'r gwaith gwych y mae ein Bwrdd Strategaeth Economaidd eisoes yn ei wneud.

“Mae'r Fargen Ddinesig gwerth £1.8 biliwn i'n heconomi ranbarthol yn y blynyddoedd i ddod, ond gall yr ymgynghorwyr arbenigol yr ydym yn awyddus i'w cael ychwanegu rhagor o werth i'r buddsoddiad wrth helpu i nodi meysydd eraill y gellir buddsoddi ynddynt i greu swyddi a rhoi hwb i'r economi.

“Mae hwn yn gyfle gwych i fod yn rhan o raglen fuddsoddi a fydd yn gadael gwaddol hirdymor ar gyfer trigolion a busnesau rhanbarthol, felly byddwn yn annog unrhyw un sydd ag arbenigedd yn y sectorau yr ydym wedi'u nodi i anfon ffurflen mynegi diddordeb cyn gynted â phosibl.”

Mae ffurflenni mynegi diddordeb ar gael i'w lawrlwytho yn adran newyddion gwefan Bargen Ddinesig Bae Abertawe.

Dylid anfon ffurflenni wedi'u cwblhau i citydeal@sirgar.gov.uk

Gall unrhyw un sydd â diddordeb ffonio 01267 224164 i gael rhagor o wybodaeth.