Disgwylir i'r arena newydd sy'n dal 3,500 o bobl ddarparu gwerth ychwanegol gros net o £13.4 miliwn i Abertawe bob blwyddyn, ac mae gweithredwr ATG bellach yn ceisio caffael busnesau lleol talentog yn y sectorau gwasanaethau adeiladu a bwyd a diod i gyflenwi ar gyfer y lleoliad newydd.

Mae'n rhaid i fusnesau sydd â diddordeb mewn ymuno â'r broses gaffael gofrestru eu buddiant i'w ystyried erbyn diwedd mis Chwefror 2021.

Mae disgwyl i Arena Abertawe gynnal 160 o berfformiadau ym maes cerddoriaeth, comedi, e-gemau, chwaraeon a chynadledda a denu yno oddeutu 230,000 o ymwelwyr bob blwyddyn. Bydd y lleoliad newydd yn creu'r hyn sy'n cyfateb i 467 o swyddi amser llawn newydd, a'r nod yw y bydd 70% o'r rhain yn cael eu recriwtio'n lleol.

Mae datblygiad yr arena yn golygu mai dyma ddechrau ar brosiect cam un Bae Copr Cyngor Abertawe gwerth £135 miliwn sy'n cynnwys yr arena dan do newydd sbon sy'n dal 3,500 o bobl - wrth ymyl Marina Abertawe - yn ogystal â siopau, bwytai, dau faes parcio aml-lawr newydd sydd â 960 o leoedd parcio, fflatiau canol y ddinas, parc trefol arfordirol 1.1 erw, a phont nodedig i gerddwyr dros Heol Ystumllwynarth.

Mae'r arena hefyd yn rhan o brosiect Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a'r Glannau, sy'n cael ei ariannu'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe gwerth £1.3 biliwn.

Dywedodd Stuart Beeby, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Grŵp yn ATG: "Mae'n bwysig i ATG a Chyngor Abertawe ein bod yn gweithio gyda phartneriaid priodol o bob rhan o Ddinas-ranbarth Bae Abertawe i ddod o hyd i'n gwasanaethau a'n cynhyrchion yn lleol lle bo hynny'n bosibl.

“Rydym yn annog busnesau sy'n arbenigo mewn darparu gwasanaethau adeiladu neu arbenigwyr bwyd a diod lleol i gysylltu â ni cyn y dyddiad cau ddiwedd mis Chwefror.”

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe a Chadeirydd Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe: “Rwy’n hyderus y bydd ATG yn ennyn llawer o ddiddordeb gan fusnesau sy’n dymuno cymryd rhan yn yr arena.

"Mae gennym ni gyflenwyr a gweithredwyr lleol gwych a allai fod yn bartneriaid perffaith i ATG a'r arena. Byddai'n braf gweld busnesau lleol yn ymgymryd â'r gwaith ac rwy'n annog gweithredwyr lleol i ymgeisio."

Gwahoddir cyflenwyr i gysylltu ar ffurf e-bost erbyn dydd Sul 28 Chwefror ac, yn dilyn proses hidlo, bydd ATG yn ymateb iddynt o fewn 14 diwrnod gyda holiadur cyflenwr pwrpasol.

Dylai cyflenwyr e-bostio swanseaarena@theambassadors.com i gofrestru eu diddordeb.