Bydd ymatebion i arolwg a luniwyd gan y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol yn llywio manylion cynllun cyflogaeth a sgiliau blynyddol.

Ar ôl cael ei gwblhau, bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r cynllun i lywio penderfyniadau ar gyllid ar gyfer addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith.

Mae'r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol, a arweinir gan gyflogwyr yn bennaf, yn cynnwys Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro, Powys ac Abertawe. Mae'r bartneriaeth yn gweithio i bontio'r bwlch rhwng addysg a busnes er mwyn helpu i greu economi fywiog sy'n cael ei chefnogi gan weithle arloesol a galluog.

Dywedodd Jane Lewis, Rheolwr y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol: "Fel partneriaeth, rydym yn llunio cynllun cyflogaeth a sgiliau rhanbarthol bob blwyddyn sy'n seiliedig ar heriau economaidd a'r ardaloedd twf tebygol yn ne-orllewin a chanolbarth Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru, Ardal Fenter Dyfrffordd y Daugleddau, ac Ardal Fenter Port Talbot.

"Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe, sydd gwerth £1.3 biliwn, hefyd ar y gweill, a fydd yn effeithio ar ddiwydiannau megis y diwydiant digidol, gwyddorau bywyd, ynni adnewyddadwy, gweithgynhyrchu clyfar a'r diwydiannau creadigol. Mae angen i ni sicrhau bod pobl ifanc yn barod i gael y swyddi y mae ein busnesau'n eu creu yn awr, yn ogystal â'r swyddi a fydd yn cael eu creu yn y dyfodol.

"Gall busnesau ar draws yr ardal fod o gymorth enfawr drwy roi gwybod i ni am eu gofynion o ran sgiliau, er mwyn i ni weithio'n agos â'r sector addysg a sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu bodloni yn y tymor byr ac yn y tymor hir.

"Mae cadw pobl ifanc dalentog yn ein rhanbarth yn hanfodol er mwyn i ni greu economi gref a bywiog sy'n cynhyrchu hyd yn oed rhagor o fuddsoddiad a swyddi yn y dyfodol. Dyna pam y byddwn yn annog cynifer o fusnesau â phosibl i lenwi'r arolwg byr rydym wedi'i lunio i lywio ein proses gynllunio."

Mae arolwg y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol yn targedu busnesau o bob maint - o gwmnïau mawr â phroffil rhyngwladol i fusnesau rhanbarthol, mentrau bach a chanolig a microfusnesau.

Gall busnesau lenwi'r arolwg tan ddiwedd mis Mai drwy fynd i https://surveymonkey.co.uk/r/RLSP2019