Bydd y datblygiad arfaethedig - a adnabuwyd yn wreiddiol fel y Pentref Digidol ond cyfeirir ato bellach fel 71 a 72 Ffordd y Brenin (teitl dros dro) - yn darparu ar gyfer busnesau digidol newydd a phresennol, gan ddod â’r cwbl at ei gilydd mewn amgylchedd gwaith hyblyg, hynod fodern.

Yn ogystal â chreu swyddi newydd a bywiogrwydd ar gyfer canol dinas Abertawe, bydd y datblygiad arfaethedig newydd hefyd yn cynnwys cyswllt newydd i'r cyhoedd rhwng Ffordd y Brenin a Stryd Rhydychen. 

Bydd y datblygiad yn chwe llawr o uchder, a bydd hefyd yn cynnwys dau lawr ychwanegol dan ddaear er mwyn gwneud y mwyaf o lawr isaf hen safle'r clwb nos.

Mae'r cyfnod ymgynghori bellach yn fyw ar www.abertawe.gov.uk/71a72fforddybrenin tan ddydd Gwener, 27 Medi. Mae arddangosiadau cyhoeddus hefyd wedi'u trefnu ar gyfer:

Mae'r prosiect yn cael ei arwain gan Gyngor Abertawe ac mae'n rhan o broses adfywio ehangach Ffordd y Brenin. Mae hefyd yn rhan o Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a’r Glannau, a fydd yn cael ei ariannu'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe.

Bydd y Fargen Ddinesig - buddsoddiad, sy'n werth £1.3 biliwn, mewn nifer o brosiectau trawsnewidiol ledled De-orllewin Cymru - yn darparu tua £13.7 miliwn ar gyfer 71 a 72 Ffordd y Brenin.

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe a Chadeirydd Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe: "Bydd y cyfleuster anhygoel hwn yn ganolbwynt i'r rheiny sy'n gweithio yn y diwydiannau digidol a'r sectorau addysg.

"Bydd yn denu arweinwyr ac arloeswyr o'r byd proffesiynol i'w amgylchedd gwaith traddodiadol a chydweithredol. Bydd cysylltedd digidol o ansawdd uchel, mannau hygyrch ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau ategol.

"Bydd hefyd yn lle newydd trawiadol ar gyfer pobl leol i ymweld a mwynhau, gyda gweithgareddau diwylliannol a photensial ar gyfer cynnig cyffrous o ran bwyd a diod.

"Byddwn yn annog pobl i ddweud eu dweud yn yr ymgynghoriad hwn ac i gymryd rhan yn nyfodol cyffrous y safle hwn. Mae gan lawer o bobl atgofion melys o ddefnyddiau blaenorol y safle."

Yn ogystal â hen safle clwb nos Oceana, mae'r datblygiad hefyd yn cynnwys hen faes parcio Lôn Picton a ffyrdd mynediad cyfagos.

Bydd y datblygiad newydd yn cyd-fynd â thrawsnewid parhaus Ffordd y Brenin, sy'n werth £12 miliwn, yn stryd o ansawdd uwch sy'n fwy hwylus i gerddwyr a fydd yn parhau i gynnwys traffig.