Roedd y drafodaeth yn rhan o ddigwyddiad yng Nghanolfan Fenter y Goleudy yn Llanelli a drefnwyd gan dîm Bargen Ddinesig Bae Abertawe, mewn partneriaeth â Chyngor Abertawe a Busnes Cymru.

Roedd cynrychiolwyr o sefydliadau megis awdurdodau lleol rhanbarthol, Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru, Gwerthwch i Gymru, Siambr Fasnach De Cymru, Clwb Busnes Bae Abertawe, Clwb Busnes y Glannau SA1, Cymdeithas y Contractwyr Trydanol, Canolfan Cydweithredol Cymru, Ffederasiwn y Busnesau Bach, Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu Cymru, Carmarthenshire Construction Training Association Ltd (CCTAL), a Phartneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol De-orllewin a Chanolbarth Cymru ymysg y rhai a oedd yn bresennol.

Nod y trafodaethau oedd helpu i lywio cynlluniau er mwyn sicrhau bod busnesau yn Sir Gaerfyrddin, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Sir Benfro yn elwa ar Fargen Ddinesig Bae Abertawe sydd werth £1.3 biliwn.

James Davies, aelod o Fwrdd Strategaeth Economaidd sector preifat y Fargen Ddinesig, oedd yn cyflwyno'r digwyddiad.

Dywedodd Mr Davies, Cadeirydd Gweithredol Industry Wales: "Rhagwelir y bydd Bargen Ddinesig Bae Abertawe werth £1.8 biliwn ac yn creu dros 9,000 o swyddi â chyflog da yn y Ddinas-ranbarth yn y 15 mlynedd nesaf, ond mae'n hollbwysig fod busnesau lleol yn elwa ar y rhaglen fuddsoddi.

 

"Felly, yn ogystal â rhoi cyfle i ddeall yn well ehangder y gadwyn gyflenwi ledled y Ddinas-ranbarth, roedd y trafodaethau hyn hefyd yn ystyried y ffordd orau o gyrraedd y busnesau hyn pan fo cyfleoedd am waith yn codi.

"Bydd rhagor o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal yn y misoedd nesaf wrth i ni geisio sicrhau bod y gymuned fusnes ranbarthol yn teimlo'n rhan o'r broses ac yn meddu ar y wybodaeth fwyaf diweddaraf.

Bydd y cymorth a ddarperir mewn digwyddiadau yn y dyfodol yn cynnwys rhoi cyngor i fusnesau ynghylch y ffordd orau i dendro ar gyfer prosiectau'r Fargen Ddinesig.

Bydd Buckingham Group Contracting Ltd - y prif gontractwr ar gyfer cynllun yr arena ddigidol dan yn Abertawe - hefyd yn trefnu ail ddigwyddiad 'Cwrdd â'r Prynwr' ar gyfer busnesau lleol yn ddiweddarach eleni.

Gan adlewyrchu'r adborth a gafwyd gan gynghorau rhanbarthol a grwpiau busnes, mae cyfres o egwyddorion caffael a ffafrir hefyd yn cael eu datblygu i'w defnyddio mewn prosiectau mawr a gyllidir yn rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe.

Bydd yr egwyddorion hyn yn cael eu hystyried gan Gyd-bwyllgor y Fargen Ddinesig sy'n gwneud penderfyniadau, i'w cymeradwyo yn y misoedd sydd i ddod.