Gwahoddir ceisiadau bellach am bedair swydd newydd yn Swyddfa Rheoli Rhaglenni'r Fargen Ddinesig, a'r dyddiad cau yw dydd Llun 3 Awst.

Rydym yn chwilio am ymgeiswyr ar gyfer swyddi Rheolwr y Swyddfa Rheoli Rhaglenni, Rheolwr Datblygu Strategol, Uwch-swyddog Cymorth y Rhaglen a Chynorthwyydd y Swyddfa Rheoli Rhaglenni.

Bydd Bargen Ddinesig Bae Abertawe, sy'n fuddsoddiad mawr mewn rhaglen o brosiectau trawsnewidiol ar draws de-orllewin Cymru, yn creu miloedd o swyddi o ansawdd uchel ac yn cyflymu adferiad economaidd Dinas-ranbarth Bae Abertawe yn dilyn Covid-19.

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Cadeirydd Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe: “Mae'r swyddi newydd hyn yn Swyddfa Rheoli Rhaglenni'r Fargen Ddinesig yn rhoi cyfle i fod yn rhan o raglen fuddsoddi a fydd o fudd i breswylwyr a busnesau ledled Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe.

“Yn ogystal â Rheolwr y Swyddfa Rheoli Rhaglenni a fydd â phrofiad sylweddol o gyflawni prosiectau a rhaglenni ar raddfa fawr, rydym yn chwilio am Reolwr Datblygu Rhaglenni i arwain ar y gwaith o baratoi cynlluniau strategol ac achosion busnes.

“Gwahoddir ceisiadau hefyd am rolau Uwch-swyddog Cymorth y Rhaglen a Chynorthwyydd Swyddfa Rheoli'r Rhaglenni, a fydd yn chwarae rolau allweddol mewn meysydd gan gynnwys dogfennaeth, adroddiadau, ymchwil a gweinyddu.

“Bydd y swyddi hyn yn cynorthwyo o ran rheoli a chyflawni prosiectau cyffrous y Fargen Ddinesig, gan fodloni gofynion adolygiad o'r Fargen Ddinesig.

“Mae'r broses recriwtio hon hefyd yn ddatblygiad pellach ar gyfer Bargen Ddinesig Bae Abertawe. Mae Cyfarwyddwr Rhaglen bellach wedi'i benodi, mae tri phrosiect wedi'u cymeradwyo ac mae'r £18 miliwn cyntaf wedi cael ei ryddhau i'r rhaglen.”

Ewch i www.sirgar.llyw.cymru/swyddi i gael rhagor o wybodaeth am bob swydd wag ac i wneud cais.

Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, y sector cyhoeddus a'r sector preifat. Mae'r rhaglen fuddsoddi yn cael ei harwain gan Gyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro a Chyngor Abertawe, mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, Prifysgol y Drindod Dewi Sant, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.