Mae angen arbenigwyr mewn nifer o sectorau i sicrhau bod y rhaglen fuddsoddi sydd werth £1.3 biliwn yn cael yr effaith fwyaf posibl.

Anogir cynrychiolwyr o'r sectorau canlynol i ymgeisio:

Pan fydd angen, bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cynghori arweinwyr y Fargen Ddinesig, gan gynnwys Bwrdd Strategaeth Economaidd o'r sector preifat a Chyd-bwyllgor sy'n gwneud penderfyniadau.

Un o argymhellion yr adolygiadau diweddar ynghylch Bargen Ddinesig Bae Abertawe yw penodi ymgynghorwyr arbenigol i helpu i'w chyflawni.

Dywedodd y Cyng. Rob Stewart, Cadeirydd y Cyd-bwyllgor: "Rydym yn gwahodd mynegiannau o ddiddordeb gan arbenigwyr mewn unrhyw un o'r sectorau sydd wedi eu nodi.

"Mae'r sectorau hyn yn cynrychioli themâu allweddol y Fargen Ddinesig a rhannau o economi Dinas-ranbarth Bae Abertawe yr ydym yn ceisio eu cefnogi ymhellach.

"Rydyn ni nawr yn rhoi holl argymhellion yr adolygiadau ar waith, sy'n dangos pa mor benderfynol ydym o ddarparu'r prosiectau trawsnewidiol a’r swyddi â chyflog da y bydd y Fargen Ddinesig yn eu creu.

"Bydd penodi ymgynghorwyr arbenigol yn cynnig hyd yn oed mwy o arbenigedd i'r broses yn dilyn sefydlu Bwrdd Strategaeth Economaidd sector preifat sydd eisoes yn rhoi cyngor amhrisiadwy i Gyd-bwyllgor y Fargen Ddinesig."

Gofynnir i ymgeiswyr lenwi ffurflen mynegi diddordeb a'i dychwelyd i citydeal@sirgar.gov.uk erbyn Dydd Gwener Medi 23, 2019.

Os oes gan unrhyw un gwestiynau neu ymholiadau, ffoniwch swyddfa Bargen Ddinesig Bae Abertawe ar 01267 224164.

Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn fuddsoddiad sylweddol mewn nifer o brosiectau trawsnewidiol ar draws Dinas-ranbarth Bae Abertawe, sydd i'w ariannu gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a'r sector preifat.

Mae'r Fargen Ddinesig yn cael ei harwain gan y pedwar awdurdod lleol rhanbarthol, y ddau fwrdd iechyd rhanbarthol, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.