Bellach, gwahoddir ceisiadau ar gyfer rôl cyfarwyddwr rhaglen newydd Bargen Ddinesig Bae Abertawe.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn sefydlu ac yn rhedeg swyddfa rheoli rhaglen newydd y Fargen Ddinesig yn Llanelli, a fydd yn cydlynu portffolio o brosiectau mawr ledled Dinas-ranbarth Bae Abertawe.

Ymysg y swyddogaethau eraill y mae codi proffil y Dinas-ranbarth fel lle i fyw, gweithio a buddsoddi, yn ogystal â chwilio am ragor o gyfleoedd ar gyfer buddsoddiad gan y sector preifat yn y Fargen Ddinesig.

Un o argymhellion yr adolygiadau diweddar ynghylch y Fargen Ddinesig yw'r swydd newydd, sydd â'r nod o gyflawni'r fargen yn gynt.

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Cadeirydd Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe: "Mae'r Fargen Ddinesig yn werth £1.8 biliwn a bydd yn creu dros 9,000 o swyddi yn y Dinas-ranbarth yn y blynyddoedd i ddod, felly bydd hon yn swydd allweddol wrth i ni fynd ati i hybu ffyniant economaidd er budd ein trigolion a'n busnesau.

“Yn ogystal â sefydlu a rhedeg swyddfa rheoli benodedig ar gyfer y Fargen Ddinesig, bydd y cyfarwyddwr rhaglen hefyd yn cydgysylltu portffolio o brosiectau'r Fargen Ddinesig ac yn archwilio cyfleoedd ar gyfer rhagor o fuddsoddiad gan y sector preifat yn y Fargen Ddinesig.

 

“Dyna pam yr ydym yn chwilio am weithiwr sydd â phrofiad pendant a helaeth o reoli rhaglen, ynghyd â'r gallu i ddatblygu perthnasoedd effeithiol â'r holl bartneriaid o'r sector cyhoeddus a phreifat ledled y Dinas-ranbarth.

"Mae'r rôl hon yn rhoi cyfle i gyfrannu'n sylweddol at raglen fuddsoddi a fydd yn trawsnewid y Dinas-ranbarth i fod yn lle gwell i fyw, gweithio a chyflawni busnes."

Ewch i'r dydalen hyn weld y disgrifiad swydd llawn a'r pecyn ymgeisio.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 23 Medi, 2019

Cyfanswm y cyflog blynyddol yw £88,474 - £94,373 (Yn ogystal â photensial i gael tâl marchnad atodol yn seiliedig ar sgiliau a phrofiad).

Yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU , Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a'r sector preifat, mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn cael ei harwain gan bedwar awdurdod lleol Dinas-ranbarth Bae Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.