Mae contractwyr ar y safle yn paratoi ar gyfer y prif waith adeiladu lle bydd yr atyniad sydd â lle ar gyfer 3,500 o bobl yn cael ei adeiladu ar ran o'r maes parcio ger y Ganolfan Hamdden.

Mae'r arena i fod i gael ei hariannu'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe sydd gwerth £1.3 biliwn fel rhan o brosiect Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a’r Glannau sydd bellach wedi cael ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, yn amodol ar gytuno ar delerau ac amodau terfynol.

Mae nodweddion eraill prosiect y Fargen Ddinesig yn Abertawe yn cynnwys datblygiad pentref digidol ar gyfer busnesau sy'n canolbwyntio ar dechnoleg a materion digidol ar Ffordd y Brenin, a phentref blychau a rhodfa arloesi ar gyfer cwmnïau newydd ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (Y Glannau SA1).

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe a Chadeirydd Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe: “Dyma ddechrau prosiect trawsnewidiol ar gyfer Abertawe. Mae miloedd o drigolion ac ymwelwyr yr un mor gyffrous â ni am y cyfleoedd a'r manteision a ddaw yn sgil y datblygiadau hyn.

“Mae cael y contractwyr ar y safle ar gyfer y gwaith paratoi hwn yn gam mawr arall ymlaen. Mae hyn yn dilyn cyhoeddiad pwysig yn gynharach yr wythnos hon bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn rhyddhau £19 miliwn o arian y Fargen Ddinesig cyn bo hir, yn seiliedig ar gymeradwyo prosiectau sy'n cynnwys Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a’r Glannau.

“Mae'n foment bwysig wrth i ni gyflwyno prosiect a fydd yn gatalydd ar gyfer trawsnewid a llwyddiant canol dinas Abertawe ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

“Mae prosiect yr arena yn prysur ddatblygu. Mae hwn yn ddatblygiad mawr i Abertawe - diwedd ar yr argraffiadau arlunwyr a dechrau ar gyfer tirnodau newydd."

Mae cynllun yr arena hefyd yn rhan o gynllun cyffredinol gwerth £120 miliwn a elwir yn gam un Canol Abertawe a fydd yn cynnwys cartrefi newydd, unedau masnachol, sgwâr digidol, parc â thema arfordirol, pont lydan i gerddwyr dros Heol Ystumllwynarth, a channoedd o lefydd parcio newydd hefyd.

Cyngor Abertawe sydd y tu ôl i'r cynllun, a'r prif gontractwr sef Buckingham Group Contracting Ltd sy'n ymgymryd â'r gwaith paratoi ar y safle.

Mae RivingtonHark, a benodwyd gan Gyngor Abertawe, yn rheolwr datblygu ar gyfer cam un Canol Abertawe.

Mae maes parcio'r Ganolfan Hamdden yn parhau ar agor drwy gydol y gwaith. Mae busnesau lleol a lleoliadau fel y Ganolfan Hamdden ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau  hefyd yn parhau ar agor ac yn hygyrch.

Mae'r prif waith contract ar gam un Canol Abertawe i fod i gael ei gwblhau erbyn dechrau 2021.

ATG (Ambassador Theatre Group), sy'n gweithredu'n agos at 50 o leoliadau ledled y byd, o'r West End yn Llundain ar draws y DU i'r Unol Daleithiau a'r Almaen, fydd yn gweithredu'r arena dan do.

Fel rhan o Fargen Ddinesig Bae Abertawe sydd gwerth £1.3 biliwn, bydd hefyd buddsoddiad mawr mewn nifer o brosiectau trawsnewidiol eraill ledled De-orllewin Cymru yn Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Chastell-nedd Port Talbot.