Bydd y cyfleuster gwyrdd blaenllaw yn darparu swyddfeydd hyblyg ar gyfer cwmnïau newydd a busnesau lleol sy'n tyfu gan ganolbwyntio ar y sectorau ymchwil a datblygu ac arloesi, er na fydd yn gyfyngedig i hynny.

Mae'r ganolfan dechnoleg yn rhan o raglen Cefnogi Arloesedd a Thwf Carbon Isel y Cyngor ac mae'n cael ei hariannu'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe sydd werth £1.3 biliwn. Nod y rhaglen yw sicrhau twf economaidd carbon isel, cynaliadwy a chynhwysol ar gyfer Dinas-ranbarth Bae Abertawe.

Bydd y ganolfan dechnoleg newydd yn ategu Canolfan Arloesi Bae Baglan  sydd gerllaw, a bydd yn cyfrannu at dwf Parc Ynni Baglan ac Ardal Fenter Glannau Port Talbot ehangach, sy'n ymestyn o'r Harbwr yn nociau'r dref i'r Parc Ynni.

Nod Ardal Fenter y Glannau, gyda'i chysylltiadau agos â rheilffyrdd a'r M4, yw cryfhau hyfywedd Castell-nedd Port Talbot fel lle i fyw a gweithio, yn ogystal â bodloni'r galw am swyddfeydd, labordai, busnesau cyffredinol a digidol.

Disgwylir i'r broses o adeiladu'r ganolfan dechnoleg gymryd 12 mis. Ar ôl iddi gael ei hadeiladu, bydd y ganolfan yn parhau i ganolbwyntio ar ynni adnewyddadwy - yn enwedig hydrogen - a fydd yn helpu i alluogi arloesi, ymchwil a datblygu.

Mae Morgan Sindall Group Plc wedi cael ei benodi i ddylunio ac adeiladu'r ganolfan dechnoleg newydd.

Dywedodd y Cynghorydd Annette Wingrave, Aelod Cabinet Adfywio a Datblygu Cynaliadwy Cyngor Castell-nedd Port Talbot: “Trwy adeiladu’r ganolfan dechnoleg hybrid hon sydd ag oddeutu 2,500 metr sgwâr o swyddfeydd hyblyg o ansawdd uchel mewn safle cyflogaeth strategol, bydd y prosiect yn helpu ac yn annog twf swyddi mewn sectorau strategol a nodwyd yn y rhanbarth - busnesau newydd a busnesau cynhenid. Bydd hyn yn cynyddu nifer y swyddi a gwerth economi’r rhanbarth.”

Amcangyfrifir y bydd y rhaglen Cefnogi Arloesedd a Thwf Carbon Isel yn werth £6.2 miliwn y flwyddyn i'r economi leol ar ôl i'r holl brosiectau gael eu rhoi ar waith. Bydd dros 1,300 o swyddi yn cael eu creu neu eu diogelu, a bydd o leiaf 30% o'r rhain yn swyddi newydd.