Mae un o'r enwau enwocaf mewn rheoli lleoliadau a chynyrchiadau wedi'i benodi i reoli arena dan do ddigidol Abertawe.

Penodwyd Ambassador Theatre Group (ATG) i reoli'r tirnod â lle i 3,500 o bobl, ar ran Cyngor Abertawe ar ôl cymryd rhan mewn proses ymgeisio gystadleuol iawn.
 
Bydd yr arena dan do, uwchben maes parcio aml-lawr newydd, mewn ardal wedi'i thirlunio ar dir i'r de o Heol Ystumllwynarth ac yn rhan o safle datblygu Abertawe Ganolog sydd hefyd yn cynnwys hen ganolfan siopa Dewi Sant.
 
Daw penodiad ATG ar ôl trafodaethau rhwng y cyngor, Rivington Land - rheolwyr datblygu'r cyngor ar gyfer y safle hwnnw - a'r ymgynghorwyr arena arbenigol IPW.
 
Dywedodd y Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, fod y penodiad yn gam sylweddol iawn yn y cyfnod cyn adfywio canol y ddinas.
 
Meddai'r Cyng. Stewart, "Rydym am gael arena dan do ddigidol o'r radd flaenaf, felly i sicrhau ei bod yn cyflawni hynny, mae angen cwmni rheoli o'r radd flaenaf arnom sydd â chysylltiadau byd-eang a dealltwriaeth ddigyffelyb o'r busnes. Gydag ATG, dyna'n union sydd gennym.
 
"Mae ATG yn berchen ar arenâu a theatrau ledled y DU ac UDA ac yn eu rheoli, gan gynnwys lleoliadau yn West End Llundain a Broadway Efrog Newydd.
 
"Mae ATG hefyd yn gwmni cynhyrchu adloniant, felly ni allem gael partner gwell i ddatblygu arena dan do y bydd ei dyluniad yn ddigon hyblyg i ddiwallu anghenion cynulleidfaoedd a chwmnïau cynhyrchu.
 
"Mae cael ATG yn rhan o'r prosiect mor gynnar yn wych oherwydd gallant ddefnyddio'u harbenigedd byd-eang i'n helpu i ddylunio'r arena. Mae'r penodiad hwn hefyd yn anfon neges bwysig i fuddsoddwyr eraill bod hyder yn y cyfleoedd busnes sydd ar gael yn Abertawe dros y blynyddoedd nesaf."
 
Mae trafodaethau â gweithredwyr posib ar gyfer gwesty newydd yn agos at yr arena dan do ddigidol hefyd yn parhau. Disgwylir i'r gwaith ar y safle datblygu i'r de o Heol Ystumllwynarth ddechrau'r flwyddyn nesaf gyda'r bwriad o agor yr arena a'r gwesty yn 2020.
 
Ychwanegodd y Cyng. Stewart, "Mae degau ar filoedd o bobl yn mwynhau digwyddiadau a pherfformiadau yn 46 o leoliadau ATG ym mhedwar ban byd bob noson o'r wythnos, felly dyma'r cwmni perffaith i ddenu hyd at 200 o ddiwrnodau o adloniant, arddangosiadau a digwyddiadau i Abertawe bob blwyddyn."
 
Bydd yr arena dan do ddigidol yn un o brif dirnodau sylweddol safle datblygu cyffredinol Abertawe Ganolog a fydd hefyd yn cynnwys siopau a bwytai newydd, sinema fwtîg, digon o le i barcio ceir a phont gerddwyr lydan dros Heol Ystumllwynarth.
 
Mae hefyd yn rhan allweddol o raglen y Fargen Ddinesig sy'n ceisio denu £1.3 biliwn o fuddsoddiad a chreu o leiaf 1,000 o swyddi yn ardal Bae Abertawe.
 
Meddai Mark Cornell, Prif Weithredwr Grŵp ATG, "Mae'n bleser mawr gan ATG weithio ar yr arena newydd yn Abertawe a gweithio gyda chyngor mor arloesol a blaengar.

"Cred ATG y gall ddod â gwerth i'r arena, yn ystod y cyfnod dylunio ac adeiladu a hefyd pan fydd ar waith. Gyda'n perthnasoedd gyda busnesau cynhyrchu a hyrwyddo, a thrwy ddatblygu cysylltiadau agos â sefydliadau lleol, credwn y gallwn gyflwyno rhaglen gref ac amrywiol i arena Abertawe. Golyga hyn, ynghyd â'n ffocws cryf ar brofiad cwsmeriaid, y bydd arena Abertawe'n lleoliad sy'n arwain y ffordd yn y diwydiant."

Meddai John Laker, Cadeirydd Rivington Land, "Ar ôl cynnig yr arena fel rhan o'n cais gwreiddiol i'r cyngor, rydym wrth ein bodd ein bod wedi helpu i sicrhau ATG. Mae'n gosod y naws ar gyfer elfen hamdden atyniad cyffredinol Abertawe Ganolog ac yn cynrychioli carreg filltir sylweddol wrth i ni gyflwyno'r datblygiad."