Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru wedi cytuno i ryddhau cyllid cychwynnol ar gyfer rhaglen Bargen Ddinesig Bae Abertawe, yn amodol ar fodloni'r telerau a'r amodau. 

Mae'r cyllid yn seiliedig ar gymeradwyo'r achosion busnes dros brosiectau Yr Egin ac Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a’r Glannau. 

Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe, sef rhaglen hirdymor o fuddsoddiadau sy'n cynnwys nifer o brosiectau mawr, yn cwmpasu Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Abertawe a Sir Benfro. 

Mae'r cyllid o £18 miliwn yn cynnig cyfle i gyflawni mewn perthynas â rhaglen gyfan y Fargen Ddinesig.

Hefyd, mae'n bosibl y bydd £18 miliwn arall ar gael eleni ar gyfer prosiectau eraill sy'n rhan o'r fargen, os bydd y rhanbarth yn bodloni telerau ac amodau pendant.

Mae prosiect Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a’r Glannau yn cynnwys arena ddigidol dan do o'r radd flaenaf â 3,500 o seddi. Gan elwa ar gysylltedd digidol o safon fyd-eang, disgwylir i'r arena agor yn gynnar yn 2021. Bydd plaza digidol hefyd yn cael ei adeiladu y tu allan i'r arena, ynghyd â gweithiau celf digidol a nodweddion digidol eraill.  

Mae agweddau eraill ar y prosiect yn Abertawe yn cynnwys pentref bocs 28,000 troedfedd sgwâr a chanolfan arloesi 64,000 troedfedd sgwâr ar gyfer busnesau newydd ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ar gampws Glannau SA1. Bydd pentref digidol 100,000 troedfedd sgwâr hefyd yn cael ei adeiladu ar Ffordd y Brenin, gan ddarparu mannau gweithio arloesol ar gyfer cwmnïau technoleg a chwmnïau sy'n canolbwyntio ar elfennau digidol.

Mae clwstwr creadigol a digidol Yr Egin yng Nghaerfyrddin wedi'i leoli ar gampws Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn y dref. Mae ail gam y gwaith bellach wedi'i gynllunio, yn dilyn cam cyntaf llwyddiannus sydd eisoes yn gartref i bencadlys newydd S4C a llawer o fusnesau eraill yn y sector creadigol.

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Cadeirydd Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe: “Er ein bod yn croesawu'r ffaith bod y cyllid hwn wedi'i ryddhau, mae cynghorau a phartneriaid y Fargen Ddinesig wedi parhau i symud ymlaen i gyflawni dau o brosiectau'r Fargen Ddinesig a gymeradwywyd heddiw (dydd Llun 15 Gorffennaf). Mae hyn yn dangos ein hymrwymiad parhaus i'r prosiectau ac i'r Fargen Ddinesig gyfan.

Bydd y prosiectau yn Abertawe a'r Egin yn rhoi lleoliad adloniant o'r radd flaenaf i bobl de-orllewin Cymru, ac ar yr un pryd yn darparu'r cyfleusterau a'r lleoliadau y mae ar ein busnesau creadigol, technoleg ac entrepreneuraidd eu hangen i ffynnu. Hefyd ein bwriad yw cyflwyno prosiectau eraill y Fargen Ddinesig yn fuan i sicrhau bod rhagor o arian yn cael ei ryddhau cyn gynted â phosibl.

“Rydym yn gobeithio y bydd y ddwy Lywodraeth yn parhau i gydweithio'n agos â ni i hwyluso'r cymeradwyaethau angenrheidiol er budd trigolion a busnesau yn Abertawe, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Chastell-nedd Port Talbot.

“Bydd datblygiadau'r Fargen Ddinesig hefyd yn gatalydd ar gyfer buddsoddiad pellach a thwf economaidd, gan gynnig cyfle am filoedd o swyddi â chyflog da i bobl leol.”

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi: “Rwy'n benderfynol o sicrhau bod Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn sicrhau twf economaidd a newid gwirioneddol i gymunedau de-orllewin Cymru, ac rwy'n hynod o falch y bydd Llywodraeth Cymru yn rhyddhau cyllid yn fuan i ddatblygu'r rhaglen uchelgeisiol hon.

“Bydd Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn arwydd o ddechrau newid mewn diwylliant i'r rhanbarth, gan feithrin hyder yn yr ardal, creu miloedd o swyddi o safon uchel a rhoi hwb ariannol enfawr am nifer o flynyddoedd i ddod.”

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru: “Mae'r arian a gyhoeddwyd heddiw (dydd Llun 15 Gorffennaf) yn dangos cryfder y diwydiannau creadigol a digidol yn y rhan hon o Gymru.

“Ond mae hefyd yn arwydd o'r cyfleoedd sydd ar y gorwel. Drwy rymuso'r rhanbarth i wneud penderfyniadau sy'n cefnogi ei dwf economaidd ei hun, mae'r ddwy Lywodraeth yn gweithio gyda'i gilydd i wneud ardal Bae Abertawe yn bwerdy arloesi, gan greu cyflogaeth a denu buddsoddiad a fydd yn trawsnewid y rhanbarth am flynyddoedd i ddod.”

Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin: “Ers yr agoriad swyddogol yn yr hydref y llynedd, mae Canolfan S4C Yr Egin wedi bod yn llwyddiant ysgubol.

“Mae'n cynnwys mannau i gynnal digwyddiadau a mannau gweithio a rhwydweithio ar gyfer yr 21ain ganrif, mae'n enghraifft o arfer gorau ar gyfer rhagoriaeth yn y sector creadigol a digidol, ac mae hefyd yn hwyluso rhannu syniadau a chydweithio.

“Gyda S4C yn brif denant yr adeilad, mae nifer y busnesau sydd bellach yn gweithio yn yr adeilad eiconig yn dweud cyfrolau am ei ansawdd a'i arloesedd.

“Pan fydd y telerau a'r amodau terfynol wedi'u cymeradwyo, bydd arian y Fargen Ddinesig ar gyfer y datblygiad hwn yn hwb sylweddol wrth i'r cynlluniau ar gyfer ail gam y datblygiad gyflymu.”

Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn cael ei harwain gan Gyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Abertawe, Cyngor Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Sir Benfro, mewn partneriaeth â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mae'r rhaglen fuddsoddi yn cael ei hariannu gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a'r sector preifat.

Mae datblygiadau eraill y Fargen Ddinesig sydd ar y gweill yn cynnwys prosiect rhanbarthol Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer a fydd yn helpu i fynd i'r afael â thlodi tanwydd, gan ddiwallu'r angen am ragor o dai.

Mae Pentref Llesiant pwysig gwerth £200 miliwn wedi'i glustnodi ar gyfer safle yn Llynnoedd Delta, Llanelli, a fydd yn darparu cyfleusterau busnes, addysg, hamdden ac iechyd o safon fyd-eang, yn ogystal â llawer o gyfleoedd cyflogaeth.

Mae prosiect seilwaith digidol i hybu cysylltiadau digidol mewn ardaloedd gwledig a threfol hefyd ar y gweill, yn ogystal â menter Sgiliau a Thalent sydd â'r nod o roi'r sgiliau i bobl y bydd eu hangen arnynt i gael y swyddi sy'n cael eu creu gan brosiectau'r Fargen Ddinesig.

Yn ystod y 15 mlynedd nesaf, rhagwelir y bydd Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn rhoi hwb o £1.8 biliwn i'r economi ranbarthol ac yn creu dros 9,000 o swyddi o ansawdd uchel.