Mae Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe wedi cymeradwyo rhaglen o seilwaith digidol a gwelliannau cysylltedd a fydd yn awr yn cael ei chyflwyno i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i’w chymeradwyo’n derfynol.

Bydd rhaglen seilwaith digidol y Fargen Ddinesig o fudd i breswylwyr a busnesau ym mhob rhan o'r Dinas-ranbarth, sy'n cynnwys Sir Gaerfyrddin Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe. Amcangyfrifir y bydd werth £318 miliwn i'r economi ranbarthol yn y 15 mlynedd nesaf.

Dan arweiniad Cyngor Sir Caerfyrddin, bydd y rhaglen seilwaith digidol yn helpu i sicrhau bod gan ddinasoedd, trefi a pharciau busnes y rhanbarth fynediad cystadleuol at gysylltedd ffibr llawn. Bydd hyn yn helpu i baratoi'r ffordd er mwyn i'r rhanbarth elwa o arloesedd 5G a'r rhyngrwyd pethau, sy'n cynnwys cartrefi clyfar, gweithgynhyrchu clyfar, amaethyddiaeth glyfar a realiti rhithwir, yn ogystal â thechnoleg y gellir ei gwisgo a fydd yn cefnogi gofal iechyd, cymorth byw a sectorau eraill. 

Bydd y rhaglen hefyd yn canolbwyntio ar wella mynediad i fand eang yng nghymunedau gwledig y rhanbarth, gan ysgogi'r farchnad i greu cystadleuaeth rhwng darparwyr digidol er budd defnyddwyr. 

Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin: “Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd cysylltedd digidol o'r radd flaenaf. Mae hyn yn prysur ddatblygu i fod yn bedwerydd cyfleustod, sy'n sail i gymaint o fywyd bob dydd y dyddiau hyn – o gysylltu â theulu a ffrindiau i reoli ein cartrefi a chefnogi busnesau ym mhob sector er mwyn iddynt sbarduno cynhyrchiant a'u galluogi i arloesi. 

“Mae ansawdd y seilwaith digidol yn Ne-orllewin Cymru ar hyn o bryd y tu ôl i rannau eraill o'r DU, felly bydd y rhaglen hon yn helpu i gau'r bwlch hwnnw drwy weithredu fel sbardun ar gyfer Dinas-ranbarth hynod gysylltiedig sydd â mynediad cyfartal i fand eang ledled ein cymunedau gwledig.  

“Bydd hyn o fudd i breswylwyr a busnesau rhanbarthol yn awr ac yn y dyfodol drwy wella cysylltedd a darparu'r math o seilwaith digidol y bydd ei angen i gefnogi arloesedd digidol yn y blynyddoedd i ddod, gan gynnwys datblygiadau mewn technoleg 5G a'r rhyngrwyd pethau.

“Mae Covid-19 wedi tynnu sylw pellach at bwysigrwydd cysylltedd digidol, felly mae'n galonogol iawn ein bod yn awr wedi cael cymeradwyaeth gan Gyd-bwyllgor y Fargen Ddinesig i gyflwyno'r rhaglen gyffrous hon i'r ddwy lywodraeth i'w chymeradwyo'n derfynol.”

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Cadeirydd Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe: “Gyda chysylltedd digidol yn parhau i drawsnewid y ffordd yr ydym yn byw ac yn gwneud busnes, bydd y rhaglen hon yn helpu i sicrhau bod y rhanbarth mewn sefyllfa dda i elwa ar arloesedd yn y dyfodol, gan wella cysylltedd yn ein holl gymunedau.

“Nid yn unig y mae sylfeini digidol cryf yn hanfodol er mwyn symud gyda datblygiadau technolegol, ond mae eu hangen hefyd i helpu i ddenu buddsoddiad pellach a swyddi sy'n talu'n dda i'r Dinas-ranbarth.”

Mae'r rhaglen seilwaith digidol yn ceisio buddsoddiad Bargen Ddinesig gwerth £25 miliwn, gyda'r cyfraniadau cyllid sy'n weddill yn cael eu rhannu rhwng y sectorau cyhoeddus a phreifat. Mae'n rhan o bortffolio o raglenni a phrosiectau mawr ledled y Dinas-ranbarth sydd i gael eu hariannu'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe.

Yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a'r sector preifat, mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn cael ei harwain gan Gyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro, a Chyngor Abertawe, mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.