Gofynnir i bob awdurdod lleol yn Ninas-ranbarth Bae Abertawe gymeradwyo cyflwyno achos busnes prosiect Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer i Gyd-bwyllgor y Fargen Ddinesig er mwyn gwneud penderfyniad.

Os caiff yr achos busnes ei gymeradwyo, bydd yn cael ei gyflwyno wedyn i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i'w gymeradwyo'n derfynol.

Bydd technoleg effeithlonrwydd ynni yn cael ei hôl-osod mewn 7,000 o gartrefi ledled Dinas-ranbarth Bae Abertawe fel rhan o'r prosiect, a bydd 3,300 pellach o dai newydd eu hadeiladu hefyd yn elwa ar hyn. 

Ceisir buddsoddiad o £15 miliwn gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe er mwyn sefydlu tîm prosiect Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer, yn ogystal â chronfa cymhellion ariannol ranbarthol a chronfa datblygu cadwyn gyflenwi ranbarthol.

Byddai buddsoddiad gan y Fargen Ddinesig hefyd yn galluogi gwaith monitro a gwerthuso manwl o ran y technolegau effeithlonrwydd ynni sy'n cael eu cyflwyno.

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn arwain y prosiect, a fydd yn ategu Strategaeth Ynni Adnewyddadwy a Datgarboneiddio yr awdurdod, yn ogystal â ffurfio rhan o ymateb rhanbarthol i ddatganiad Argyfwng Hinsawdd Llywodraeth Cymru ym mis Ebrill, 2019. Bydd y cyngor yn gwneud hyn drwy sicrhau bod technolegau adnewyddadwy yn rhan annatod o ddatblygiadau preswyl yn y dyfodol, yn ogystal ag ôl-osod eiddo presennol.

Dywedodd y Cynghorydd Rob Jones, Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot: "Bydd y cysyniad Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer yn cael ei roi ar waith i ddechrau mewn nifer penodol o ddatblygiadau tai newydd a datblygiadau ôl-osod er mwyn casglu dealltwriaeth fanwl o'r technolegau effeithlonrwydd ynni amrywiol sydd ar gael.

"Bydd y ddealltwriaeth hon yn helpu i lywio enghreifftiau o arfer gorau ar gyfer rhoi’r prosiect ar waith ymhellach yn y dyfodol ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat.

"Bydd manteision sylweddol ar gael i fusnesau cadwyn gyflenwi lleol a rhanbarthol, a bydd y prosiect Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer yn creu miloedd o swyddi adeiladu, yn creu sgiliau newydd, yn trechu tlodi tanwydd ac yn gwella iechyd a llesiant, gan helpu'r rhanbarth i gyrraedd ei dargedau lleihau carbon.

"Bydd y prosiect yn adeiladu ar nifer o ddatblygiadau tai ynni-effeithlon sydd naill ai wedi'u cwblhau neu'n parhau ledled De-orllewin Cymru er mwyn sefydlu'r Dinas-ranbarth fel arloeswr byd-eang ar gyfer y math hwn o dechnoleg."

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Cadeirydd Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe: "Mae'r prosiect Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer yn un o dri phrosiect rhanbarthol a fydd yn cael eu hariannu'n rhannol gan y Fargen Ddinesig, ynghyd â phrosiect Seilwaith Digidol i wella cysylltedd digidol a Menter Sgiliau a Thalentau a fydd yn creu llwybrau i bobl leol gael mynediad at y swyddi o ansawdd uchel y bydd y Fargen Ddinesig yn eu creu.

"Mae rhoi ystyriaeth i achos busnes Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer yn gynnydd pellach ar gyfer y Fargen Ddinesig, ac mae dau brosiect bellach wedi'u cymeradwyo, mae prosiectau eraill wedi'u cyflwyno i'r ddwy lywodraeth i'w cymeradwyo'n derfynol, ac mae £18 miliwn cyntaf y cyllid wedi'i ryddhau."

Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn fuddsoddiad o £1.3 biliwn mewn prosiectau trawsnewidiol ledled y Dinas-ranbarth. Mae'r rhaglen fuddsoddi, a arweinir gan y pedwar awdurdod lleol rhanbarthol mewn partneriaeth â'r ddau fwrdd iechyd rhanbarthol a'r ddwy brifysgol ranbarthol, yn cael ei hariannu gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a'r sector preifat.