Mae Cylch Rasio 3D dyfodolaidd sydd wedi'i gynllunio ar gyfer Sir Gaerfyrddin yr haf hwn wedi cael ei lansio'n swyddogol.

Bydd timau o blant o wyth ysgol gynradd y sir yn cymryd rhan yn y ras ceir rheolaeth o bell a wneir ag argraffydd 3D, sydd wedi'i chlustnodi ar gyfer Felodrom Parc Caerfyrddin ym mis Mehefin, 2019.

Mewn digwyddiad lansio yng Nghanolfan S4C Yr Egin yng Nghaerfyrddin, rhoddodd Prifysgol Abertawe argraffwyr 3D i bob ysgol sy'n cymryd rhan.

Bydd plant bellach yn dechrau ar y gwaith argraffu 3D ac yn rhoi eu ceir a reolir o bell at ei gilydd, ar ôl sicrhau nawdd gan ddelwriaethau ceir lleol.

Bydd Tîm Mazda yn cael ei gynrychioli gan Ysgol Gynradd Nantgaredig, Tîm Kia gan Ysgol y Dderwen, Tîm Ford gan Ysgol Teilo Sant, Tîm MG gan Ysgol Llanybydder, Tîm Citroen gan Ysgol Llanllwni, Tîm Volva gan Ysgol Carreg Hirfaen, Tîm Hyundai gan Ysgol y Bedol a Thîm Subaru gan Ysgol Peniel.

Mae'r delwriaethau ceir sy'n noddi'r ras yn cynnwys HG Bryer, Dryslwyn; Gravells, Cydweli; J & J Motors, Cross Hands; OC Davies, Caerfyrddin; Bassetts, Caerfyrddin; Lloyd Motors, Aberaeron; John F Hutchings Ltd a Howards, Caerfyrddin. 

Mae pob car sy'n cael ei argraffu'n 3D yn seiliedig ar ddyluniad Daniel Norée.  Cadarnhawyd bod Cyngor Tref Caerfyrddin yn un o noddwyr y digwyddiad, a bydd busnesau lleol yn darparu byrbrydau a lluniaeth ar y diwrnod.

Cafodd y prosiect hwn, dan arweiniad Coleg Peirianneg Prifysgol Abertawe mewn partneriaeth â Chyngor Sir Caerfyrddin, ei ddechrau yn Ysgol Gynradd Nantgaredig - ysgol gynradd arloesol lle mae plant yn cael eu cyflwyno i dechnolegau digidol megis argraffu 3D o oedran ifanc.

Siaradodd Dr Dimtris Pletsas, o Brifysgol Abertawe, â channoedd o blant ynghylch defnyddio argraffwyr 3D a thechnoleg 'gweithgynhyrchu clyfar' arall yn y digwyddiad lansio.

Dywedodd: "Nid yn unig y bydd y Cylch Rasio 3D yn hwyl i'r plant sy'n cymryd rhan - bydd hefyd yn addysgol oherwydd y sgiliau peirianneg, dylunio, TG, datrys problemau, marchnata a gwaith tîm y byddant yn eu dysgu.

"Bydd y ras yn ddigwyddiad gwych, ond yr hyn sy'n bwysicach yw'r llwybr y bydd yr ysgolion hyn yn ei ddilyn er mwyn mabwysiadu'r math hwn o dechnoleg fel rhan o'u hamgylcheddau dysgu ac addysgu yn y tymor hir.

"Gobeithiwn hefyd y bydd y digwyddiad yn ysgogi ysgolion eraill ledled Sir Gaerfyrddin a thu hwnt i fabwysiadu technoleg argraffu 3D yn gynt. Bydd grwpiau cymorth technegol yn cael eu sefydlu ar gyfer pob ysgol sy'n cymryd rhan, fel rhan o'r ymdrechion parhaus i hyrwyddo gwyddoniaeth ac arloesi mewn ysgolion ledled gorllewin Cymru."

Mae datblygiad gweithgynhyrchu clyfar yn golygu bod mwy a mwy o fusnesau ledled y byd yn dechrau defnyddio technoleg uwch megis roboteg, deallusrwydd artiffisial ac argraffu 3D i fod yn fwy effeithlon a phroffidiol.

Dywedodd Dr Pletsas: "Er mwyn symud gyda'r oes a gweddill y byd, bydd prosiect o'r enw 'Ffatri'r Dyfodol', a fydd yn cael ei ariannu'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe, yn golygu y bydd peirianwyr arbenigol yn gweithio ochr yn ochr â gweithgynhyrchwyr rhanbarthol i ganfod a gweithredu atebion gweithgynhyrchu clyfar yn ne-orllewin Cymru.

"Golyga hyn y bydd llawer mwy o swyddi yn cael eu creu yn y sector gweithgynhyrchu clyfar yn y dyfodol, felly mae'n bwysig iawn i gyflwyno ein plant i'r dechnoleg hon."

Yn ogystal ag argraffu ceir 3D, eu rhoi at ei gilydd, eu paentio a'u profi, bydd yn rhaid i'r plant hefyd ddewis lliwiau eu tîm a chyd-drafod cynigion hysbysebu ar gyfer y digwyddiad rasio.

Bydd camerâu bach yn cael eu gosod ar gar pob tîm er mwyn ailchwarae a gwylio'r ras, a bydd lluniau gyda chamerâu drôn hefyd yn cael eu tynnu ar ddiwrnod y ras.

Bydd gan bob ysgol sy'n cymryd rhan yn y felodrom fan penodol, lle bydd delwriaethau ceir sy'n noddi yn arddangos eu modelau diweddaraf.