Mae'r Rhaglen Seilwaith Digidol wedi cyhoeddi ei chynlluniau i gaffael cysylltedd ffeibr i safleoedd ac asedau sector cyhoeddus ar draws Dinas-Ranbarth Bae Abertawe - Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Abertawe, a Chastell-nedd Port Talbot. Mae mwy o wybodaeth ar Sell2Wales.

Hefyd, rydym wedi trefnu digwyddiad ymgysylltu â'r farchnad ar 23 Awst am 10am. Bydd hwn yn gyfle i ddarganfod mwy am y prosiect a gofyn cwestiynau.

E-bostiwch Rebecca Llewhellin - RSLlewhellin@sirgar.gov.uk i gofrestru'ch diddordeb.

image