Mae'r prosiect, sy'n werth £73.5 miliwn y flwyddyn ac a fydd yn creu dros 1,800 o swyddi o ansawdd uchel i economi Sir Benfro, yn gosod y sir a Dinas-ranbarth Bae Abertawe wrth galon arloesedd byd-eang ym maes ynni morol.

Mae Ardal Forol Doc Penfro, a gefnogir gan Gyngor Sir Penfro, yn cynnwys pedair elfen:

Prif amcan y prosiect fydd cefnogi twf gwynt arnofiol a thechnoleg o ran tonnau a llanw, a hynny drwy archwilio cyfleoedd oddi ar arfordir Cymru. Bydd hyn yn helpu i gyfrannu at dargedau ynni sero-net, lle mae posibilrwydd o ddatblygu diwydiant allforio newydd.

Mae prosiect Ardal Forol Doc Penfro ymhlith rhaglen o brosiectau sy'n cael eu cyllido'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe sy'n werth £1.3 biliwn.

Bydd y Fargen Ddinesig yn dod â £28 miliwn i'r prosiect yn ystod y blynyddoedd nesaf, a bydd gweddill y cyllid yn dod o law buddsoddiad gan y sector preifat a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Jess Hooper, Rheolwr Rhaglen Ynni Morol ar gyfer Ynni Môr Cymru, “Mae META ar y ffordd i fod yn ganolfan brawf genedlaethol Cymru ac yn y pen draw bydd yn cynnwys cyfres o wyth ardal a gymeradwywyd ymlaen llawn heb gysylltiad â grid yn Nyfrffordd Aberdaugleddau. Gydag ardaloedd prawf cam un eisoes yn darparu hafan ar gyfer ynni morol, mae META yn galluogi datblygwyr dyfeisiau ynni adnewyddadwy morol i ddefnyddio, dad-risgio a datblygu o'u cydrannau i'w dyfeisiau mewn amgylchedd cefnfor cymharol gysgodol ond sy'n dal i gynrychioli'r amgylchedd hwnnw.

“Fel rhan o brosiect ehangach Ardal Forol Doc Penfro, mae META yn edrych ymlaen at gyfrannu at y cyfleoedd economi las y mae’r prosiect cyffrous hwn yn eu cynnig i Sir Benfro a parhau i ddatblygu Sir Benfro fel canolfan ynni môr o'r radd flaenaf.”

Dywedodd Dr Stephen Wyatt, Cyfarwyddwr Ymchwil ac Arloesi Ynni Adnewyddadwy Catapwlt, “Rydym wir yn croesawu'r gymeradwyaeth hon, sydd yn ein galluogi i fwrw ymlaen â phob agwedd o'r gwaith yn ein Canolfan Ragoriaeth Peirianneg Ynni Morol a sefydlu ein hunain yn y rhanbarth yn y tymor hir. Rydym bellach yn ymgysylltu'n ffurfiol â'n partneriaid academaidd - prifysgolion Abertawe, Caerdydd, Bangor a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae ehangder a dyfnder eu gweithgaredd ymchwil yn ategu arbenigedd a gwybodaeth farchnad Catapwlt Ynni Adnewyddadwy oddi ar yr Arfordir yn y sector diwydiannol yn berffaith. Drwy weithio gydag arloeswyr o Gymru a chwmnïau'r cadwyni cyflenwi, bydd MEECE yn arddangos ac yn dilysu cynhyrchion, technolegau a phrosesau newydd o ran ynni'r môr, gan ddarparu cefnogaeth arloesi barhaus mewn ymgais i leihau costau a risgiau wrth i'r cynhyrchion hyn agosáu o ran cael eu masnacheiddio. Dyma rywbeth y mae MEECE mewn sefyllfa dda i'w ddarparu trwy fanteisio ar arbenigedd presennol Catapwlt ac arbenigedd ein partneriaid."

Dywedodd Steve Jermy, Cadeirydd Gweithredol Wave Hub Ltd “Mae hon yn garreg filltir arwyddocaol ym mhrosiect Parth Arddangos Sir Benfro, a fydd yn ysgogi sefydlu canolfan yng Nghymru ar gyfer cynhyrchu ynni carbon isel ar y môr. Rydym yn gyffrous i weithio gyda'n partneriaid i ddatblygu seilwaith sy'n galluogi'n strategol i gyflymu datblygiad ynni adnewyddadwy oddi ar arfordir Cymru, cefnogi technolegau cynhyrchu ynni yn y dyfodol a chynhyrchu trydan gwyrdd o'r môr. Yn y dyfodol, rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu staff newydd i dîm datblygu prosiect Wave Hub. Bydd y staff yn cael eu lleoli yn Noc Penfro."

Dywedodd Andy Jones, Prif Weithredwr Porthladd Aberdaugleddau: “Mae hwn yn benderfyniad pwysig i Sir Benfro oherwydd bod cyllid wedi dod o law Dinas-ranbarth Bae Abertawe a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Ochr yn ochr â buddsoddiad sylweddol gan y Porthladd, bydd Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn cefnogi moderneiddio ein seilwaith porthladdoedd a hynny i sicrhau y gall datblygwyr weithredu mor effeithlon â phosibl, gan ganiatáu iddynt leihau cost ynni a helpu i gyrraedd targedau sero net. Rydym hefyd yn cydnabod y gwerth i ddiwydiannau eraill a'r rôl y bydd gan y prosiect hwn i'w chwarae wrth annog cydweithrediadau ac arloesi pellach yn y rhanbarth. Rydym yn gweld hwn fel cam sylweddol ymlaen ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda datblygwyr wrth iddynt archwilio buddion y sylfaen newydd hon. Yn ogystal, rydym yn croesawu’r effaith gadarnhaol y bydd y diwydiant newydd a chyffrous hwn yn ei chael ar gyfleoedd gwaith ac economi Sir Benfro.”

Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn cael ei hariannu gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a'r sector preifat.

Mae'r rhaglen fuddsoddi yn cael ei harwain gan Gyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro a Chyngor Abertawe, mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.