Bydd Lucy Cohen, cyd-sylfaenydd Mazuma, a Paul Greenwood, rheolwr-gyfarwyddwr Teddington Engineered Solutions, yn ymgynghorwyr arbenigol i Fwrdd Strategaeth Economaidd sector preifat y Fargen Ddinesig.

Dan gadeiryddiaeth Ed Tomp, Is-lywydd a Rheolwr Cyffredinol Valero UK yn Sir Benfro, mae'r Bwrdd Strategaeth Economaidd yn rhoi cyngor ac argymhellion i Gyd-Bwyllgor y Fargen Ddinesig sy'n gwneud penderfyniadau. Mae aelodau eraill yn cynnwys Nigel Short, cadeirydd y Scarlets; Amanda Davies, Prif Weithredwr Grŵp Pobl; James Davies, Cadeirydd Gweithredol Diwydiant Cymru; Chris Foxall, Cyfarwyddwr Ariannol Riversimple a Simon Holt sydd wedi ymddeol fel Oncolegydd Llawfeddygol Ymgynghorol.

Ar y cyd â'i ffrind gorau Sophie Hughes, sefydlodd Lucy Cohen, sy'n byw yn Sgeti Abertawe, wasanaeth cyfrifeg ar-lein sef Mazuma yn 2006.

Bellach mae Mazuma yn darparu gwasanaeth cyfrifeg i filoedd o ficrofusnesau ledled y DU. Busnesau ag un perchennog yw'r rhain fynychaf sydd â llai na phum aelod o staff.

Yn fuan wedi i Mazuma lwyddo i ennill gwobr Dechrau Busnes HSBC, agorwyd cangen Americanaidd o'r cwmni yn Salt Lake City yn 2011.

Dywedodd Lucy: "Fel un sydd wedi symud i fyw yn Abertawe o Gaerdydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rwy'n rhagweld y bydd Dinas-ranbarth Bae Abertawe o fudd mawr i fusnesau a rhagwelaf hefyd y bydd twf yn yr economi.

"Rwy’n frwdfrydig ynghylch potensial pob prosiect sy’n rhan o'r Fargen Ddinesig. Roedd yn gwneud synnwyr felly fy mod yn gwneud cais am fod yn ymgynghorydd arbenigol ar gyfer y Bwrdd Strategaeth Economaidd ar ôl imi weld ei fod yn chwilio am arbenigwyr ym maes microfusnes.

“Fe wnes i gyd-sefydlu Mazuma yn 23 oed. Dechreuodd Mazuma fel microfusnes ac mae'n delio’n gyfan gwbl â microfusnesau ledled y DU ac UDA. Golyga hyn fod gennyf ddealltwriaeth fanwl o'r sector.”

Mae gan Teddington Engineered Solutions - cwmni yn Nafen, Llanelli - bortffolio o gleientiaid ledled y byd ar gyfer ei wasanaethau dylunio, cymhwyso a gweithgynhyrchu chwyddgymalau a meginau.

Mae'r Rheolwr-gyfarwyddwr Paul Greenwood, sy'n dod o Gastell-nedd yn wreiddiol, hefyd yn gadeirydd y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru.

Dywedodd Paul: "Pan rydych yn rhedeg busnes, y peth pwysicaf yw eich staff.

"Ond un o'r problemau y mae nifer o fusnesau yn ei hwynebu yw diffyg o ran pobl â sgiliau angenrheidiol, felly dechreuais ymwneud â sgiliau am y tro cyntaf sawl blwyddyn yn ôl er mwyn helpu i sicrhau bod cyflogwyr a darparwyr sgiliau yn cyd-fynd yn well â'i gilydd. O ganlyniad i'r profiad hwn, rwy'n credu y gallaf ychwanegu gwerth i raglen y Fargen Ddinesig, gyda sgiliau sy'n croesi pob un o brosiectau'r Fargen Ddinesig.

"Rwyf wir yn poeni am Gymru a Dinas-ranbarth Bae Abertawe, felly mae'n rhwystredig iawn bod ein heconomi y tu ôl i rannau eraill o'r DU. Mae cymaint o botensial yma. Rydym yn ddigon mawr i wneud gwahaniaeth, ond yn ddigon bach i fod yn ddeinamig.

"Bydd y Fargen Ddinesig yn ein galluogi i sicrhau rhagor o gyfleoedd yn y rhanbarth, gan gadw'r buddion. Ond yn ogystal â datblygiadau'r Fargen Ddinesig, mae'n rhaid cofio'r busnesau cynhenid sy'n bodoli ac sydd wedi bodoli am gyfnod hir. Mae'n hanfodol eu bod nhw'n elwa hefyd."

I gael rhagor o wybodaeth am Fargen Ddinesig Bae Abertawe, ewch i www.bargenddinesigbaeabertawe.cymru neu dilynwch @SBCityDeal ar Twitter a Facebook.