Cyfrifoldeb Dr Burnes, sy'n ymuno o Brifysgol Abertawe, fydd goruchwylio'r gwaith o gyflawni'r rhaglen fuddsoddi gwerth £1.3 biliwn ledled De-orllewin Cymru.

Mae Dr Burnes wedi cael nifer o swyddi uwch yn y brifysgol yn ystod y 12 mlynedd diwethaf. Mae'r rhain yn cynnwys Cyfarwyddwr Gwybodaeth, Gwasanaethau a Systemau; Rheolwr Datblygu Strategaeth Ddigidol; a Chyfarwyddwr Cyswllt Cynllunio a Phrosiectau Strategol.

Yn ei swydd fel Cyfarwyddwr Rhaglen y Fargen Ddinesig, bydd Dr Burnes yn sefydlu ac yn arwain Swyddfa Rheoli Rhaglen y Fargen Ddinesig a fydd yn cydlynu portffolio o brosiectau mawr ledled Dinas-ranbarth Bae Abertawe, sy'n cynnwys Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe.

Nod rhaglen y Fargen Ddinesig yw creu amodau sy'n denu busnesau ac yn ysgogi twf economaidd y Dinas-ranbarth, er mwyn sicrhau ei fod yn lle hyd yn oed mwy deniadol i fyw, gweithio, cynnal busnes a buddsoddi.

Bydd Bargen Ddinesig Bae Abertawe, sydd gwerth £1.8 biliwn i'r economi ranbarthol, yn creu dros 9,000 o swyddi ledled y Dinas-ranbarth yn y blynyddoedd nesaf.

Mae Dr Burnes, sy'n dad i un plentyn, yn gyn-ddisgybl Ysgol Gyfun Tre-gŵyr yn Abertawe. Mae gan y gŵr 42 oed radd meistr mewn rheoli gwasanaethau cyhoeddus a doethuriaeth mewn nanodechnoleg. Fel rhan o'i radd rheoli is-raddedig ym Mhrifysgol Abertawe, buodd yn byw ac yn astudio ym Mhrifysgol Brock yn Ontrario, Canada.

Dywedodd Dr Burnes: "Rwy'n llawn cyffro am yr hyn sydd gan y Fargen Ddinesig i'w gynnig ac rwy'n edrych ymlaen at ddechrau ar fy rôl newydd. Mae gan Ddinas-ranbarth Bae Abertawe lawer o botensial ar gyfer twf economaidd, ac yn fy marn i, bydd fy mhrofiad yn rheoli prosiectau, rhaglenni a newid ar draws ystod amrywiol o ardaloedd yn cael effaith gadarnhaol ar brosiectau'r Fargen Ddinesig. Mae'r rhain yn cynnwys datblygiadau digidol, twf economaidd, ynni, iechyd a llesiant, a datblygu sgiliau a thalentau.

“Rwy'n dod o Ddinas-ranbarth Bae Abertawe. Cefais fy ngeni yma, fy addysgu yma ac rwyf wedi gweithio yma ers blynyddoedd lawer, felly rwy'n angerddol dros yr ardal a'r hyn y gellir ei gyflawni er budd trigolion a busnesau ym mhob un o'n cymunedau os ydym yn gweithio gyda'n gilydd a'n canolbwyntio ar y pethau iawn.

"Megis dechrau'r daith yw'r Fargen Ddinesig a fydd o fudd mawr i'r rhanbarth ac i Gymru. Bydd y rhaglen yn canolbwyntio ar ein cryfderau rhanbarthol er mwyn ysgogi buddsoddiad pellach, prosiectau, sgiliau a swyddi o werth uchel.

"Bydd cyfathrebu ac ymgysylltu yn hollbwysig i sicrhau bod pawb ledled y rhanbarth yn teimlo eu bod yn rhan o'r daith fuddsoddi, gan sicrhau bod cymaint o gyfleoedd â phosibl er mwyn i'n pobl a'n busnesau elwa arnynt."

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Cadeirydd Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe: "Penodwyd Dr Burnes yn sgil proses recriwtio eang a oedd yn cyd-fynd â natur allweddol swydd Cyfarwyddwr y Rhaglen. 

"Mae gan y Fargen Ddinesig y pŵer i wella bywydau pobl leol drwy roi hwb i'n heconomi, creu miloedd o swyddi sy'n talu'n dda, darparu'r cyfleusterau sydd eu hangen ar ein busnesau i ffynnu, a denu buddsoddiad sylweddol pellach i'r rhanbarth.

"Ni ellir gorbwysleisio ei bwysigrwydd, a dyna pam y mae prawf o sgiliau uwch-arweinydd a phrofiad helaeth mewn rheoli prosiectau a gweithio mewn partneriaeth yn hanfodol ar gyfer swydd Cyfarwyddwr y Rhaglen.

"Mae gan Dr Burnes brofiad sylweddol yn y meysydd hyn, ynghyd ag angerdd ac uchelgais ar gyfer y rhanbarth y mae'n hanu ohono.

"Mae ei benodiad yn gynnydd pellach ar gyfer y Fargen Ddinesig, ar ôl i gam cyntaf cyllid y Fargen Ddinesig gwerth £18 miliwn gael ei ryddhau yn ddiweddar iawn."

Yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a'r sector preifat, mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn cael ei harwain gan bedwar awdurdod lleol Dinas-ranbarth Bae Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Ymhlith y prosiectau a ariennir yn rhannol gan y Fargen Ddinesig y mae Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a’r Glannau, yr Egin sef clwstwr digidol creadigol yng Nghaerfyrddin, datblygiad Gwyddor Bywyd a Llesiant yn Llanelli, rhwydwaith o Gampysau Gwyddor Bywyd a Llesiant, Ardal Forol Doc Penfro, a rhaglen Cefnogi Arloesi a Thwf Carbon Isel yng Nghastell-nedd Port Talbot a fydd yn canolbwyntio ar ddatgarboneiddio a dyfodol dur.

Mae prosiectau rhanbarthol yn cynnwys Seilwaith Digidol, Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer a Menter Sgiliau a Thalentau a fydd yn creu llwybrau i bobl leol gael mynediad at y miloedd o swyddi y bydd y Fargen Ddinesig yn eu creu.