Agorwyd Canolfan S4C Yr Egin – canolfan greadigol a digidol newydd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant – yn swyddogol heddiw gan y Gwir Anrh. Carwyn Jones, AC, Prif Weinidog Cymru.

Yn ei hadeilad trawiadol ac eiconig, mae’r Egin yn ganolfan sy’n dod â’r diwydiannau creadigol a chynnwys digidol at ei gilydd i danio syniadau a chysylltiadau wrth feithrin doniau a rhannu adnoddau o dan yr un to.   Mae hwn yn brosiect trawsnewidiol sy’n dod ag amcanion polisïau economaidd, ieithyddol a diwylliannol Llywodraeth Cymru, fel y’u nodir yn rhaglen y llywodraeth, Symud Cymru Ymlaen at ei gilydd.  Mae hefyd i’w ariannu’n rhannol o dan Fargen Dinas Bae Abertawe sy’n werth £1.3 biliwn, yn amodol ar gymeradwyo’r achos busnes a bydd yn creu newid pwysig a chadarnhaol yn economi greadigol a digidol Cymru.

Meddai’r Gwir Anrh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru: “Rydyn ni'n falch o gefnogi’r prosiect hwn a fydd yn helpu i sefydlu canolfan arloesol i’r Diwydiannau Creadigol yng Nghaerfyrddin. Mae’r Egin yn ategu’n berffaith weledigaeth Llywodraeth ac S4C o dyfu ein diwydiant creadigol wrth ddatblygu ar yr un pryd yr economi leol. 

“Mae ein buddsoddiad yn Yr Egin yn rhan o’n hymrwymiad i ddarparu gwell swyddi yn nes at gartrefi pobl ond hefyd i ddarparu swyddi iaith Gymraeg o ansawdd yng nghadarnleoedd y Gymraeg a fydd yn ein helpu ni i gyflawni ein nod o filiwn o siaradwyr erbyn 2050.”

Ar ôl agor i’r cyhoedd yn gynharach yn ystod yr hydref eleni, mae’r Egin wrthi’n ennill ei blwyf wrth galon campws y Brifysgol yng Nghaerfyrddin gan ddarparu cyfleoedd i’r diwydiannau creadigol, myfyrwyr a staff yn ogystal â’r gymuned leol, greu, dysgu mwynhau ei gyfleusterau modern.   Mae'r Ganolfan yn cynnwys awditoriwm, ystafelloedd golygu, ardal perfformio mawr, a chaffi, a bydd yn cynnig rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau, gweithdai, sgyrsiau ac arddangosiadau i’r cyhoedd yn ogystal â’r rhai a oedd yn gweithio yn y diwydiannau creadigol a digidol.

 S4C yn brif denant angori, mae’r Egin hefyd yn gartref i amrywiaeth o gwmnïau sy’n gweithio yn y diwydiannau creadigol gan gynnwys cyhoeddi amlgyfrwng a thechnoleg ddigidol; addysg ddigidol; cynhyrchu fideos a ffotograffiaeth; ôl-gynhyrchu; dylunio graffig; cyfieithu ac isdeitlo yn ogystal â rheolaeth ariannol ar y diwydiannau creadigol. Maent yn cynnwys: Boom, Gorilla, Atebol, Big Learning Company, Captain Jac, Asset Finance Solutions, Carlam, Highly, Lens 360, Moilin, Optimwm, a Thrywydd.

Meddai’r Athro Medwin Hughes, DL, Is-Ganghellor:

“Rwy’n falch dros ben fod Canolfan S4C Yr Egin eisoes wedi ennill ei phlwyf wrth galon cymuned greadigol Sir Gâr.  Rydyn ni wedi gweithio mewn partneriaeth â S4C, Cyngor Sir Gâr, Llywodraeth Cymru a Bargen Dinas BaeAbertawe i ddarparu canolfan eiconig a fydd yn gwasanaethu anghenion Cymru.  Wrth ddatblygu'r Egin, roedd y Brifysgol yn ymwybodol o’r angen i greu canolfan arloesol a fyddai’n cryfhau’r seilwaith digidol yng nghefn gwlad Cymru. Mae’r Egin yn gyfle i wneud yn fawr o werth economaidd, ieithyddol a chymdeithasol y llwyddiant i ddenu S4C i adleoli ei phencadlys i Sir Gaerfyrddin trwy sefydlu clwstwr creadigol a digidol i gydleoli â’r sianel. Y weledigaeth oedd datblygu canolfan a fydd yn adlewyrchu'r arfer masnachol gorau yn y sector creadigol sy’n gysylltiedig â darpariaeth ddwyieithog Y Drindod Dewi Sant ac i greu cyflymydd a fydd yn ymgorffori prif elfennau canolfan gynaliadwy, gynhyrchiol a chystadleuol dros ben a fydd yn cyfrannu i economïau creadigol a digidol Cymru a’r DU.”

Ychwanegodd Carys Ifan, Cyfarwyddwr Canolfan S4C Yr Egin:

“Cwta wyth wythnos sydd ers i’r adeilad gael ei drosglwyddo i ni ac yn ystod y cyfnod hwn, bellach mae 55 aelod o staff S4C yn gweithio o’r Egin ac mae 10 cwmni wedi symud i’w swyddfeydd ar yr ail lawr.  Ers mis Medi, mae S4C wedi cynnal Noson Wylwyr lwyddiannus dros ben; mae cannoedd o blant ysgol lleol wedi cymryd rhan mewn gweithdai ac mae rhwydwaith Sir Gâr Greadigol, a sefydlwyd yn rhan o Brosiect Ymgysylltu'r Egin, gyda chymorth arian LEADER, wedi cyfarfod i archwilio cyfleoedd digidol. Rydyn ni, felly, yn falch o weld ein gweledigaeth yn cael ei gwireddu o ddatblygu canolfan a fydd yn ysbrydoli’r gymuned greadigol yn ogystal â chreu canolfan lle gall aelodau'r gymuned flasu a mwynhau gweithgareddau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog.”

Symudodd S4C i’w bencadlys newydd ar lawr cyntaf Yr Egin ym mis Medi a’r Sianeli yw prif dentant angor  y datblygiad.  Meddai Cadeirydd S4C, Huw Jones:

“Mae symud i’r Egin yn garreg filltir bwysig i S4C. Rydyn ni’n hyderus y bydd yr adleoli hanesyddol hwn yn gatalydd i gefnogi’r defnydd ar y Gymraeg yn y Gorllewin. Mae’r cyfleusterau modern a’r lleoliad dymunol yn golygu ei fod yn lle deniadol i weithio ynddo.  Rydyn ni’n falch o nifer y swyddi o ansawdd uchel rydyn ni eisoes wedi gallu eu cynnig a hefyd yn edrych ymlaen at gydweithio’n agos â’n darpar gyd-denantiaid.”

Mae Cyngor Sir Gâr hefyd wedi bod yn bartner allweddol sydd wedi cydweithio’n agos â’r Brifysgol i ddatblygu Canolfan S4C Yr Egin. 

Meddai’r Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd Cyngor Sir Gâr:

“Mae Canolfan S4C Yr Egin yn ddatblygiad eiconig a fydd yn rhoi Sir Gâr ar y map yn sir sy’n cofleidio’r diwydiannau creadigol.

“Mae adleoli pencadlys S4C i'r adeilad a nifer y tenantiaid ychwanegol sydd eisoes wedi symud i mewn yn adrodd cyfrolau am ansawdd a gweledigaeth y datblygiad.

“Ynghyd â phrosiectau adfywio parhaus neu’r rhai sydd ar y gweill yn Sir Gâr, bydd Canolfan S4C Yr Egin yn creu cyfleoedd cyflogaeth, fydd o fudd i’r gymuned oddi amgylch ac yn denu rhagor fyth o fuddsoddi, a fydd yn arwain at fanteision ehangach o’r Ddinas-ranbarth ehangach, hefyd.”

Mae Canolfan S4C Yr Egin i’w hariannu’n  rhannol o dan Fargen Dinas-ranbarth Bae Abertawe – buddsoddiad gwerth £1.3 biliwn mewn 11 o brosiectau ar draws De-orllewin Cymru, gan ddarparu hwb gwerth £1.8 miliwn i’r economi a chreu 10,000 o swyddi.  Yn amodol ar gymeradwyo’r achos busnes, ariennir y Fargen Ddinesig gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, y sectorau cyhoeddus a phreifat.

Meddai’r Cynghorydd Rob Stewart, Swyddog Arweiniol Bargen Ddinesig Bae Abertawe: “Mae’n anhygoel gweld y prosiect sydd i’w ariannu’n rhannol o dan Fargen Ddinesig Bae Abertawe yn dechrau arni.

“Mae Canolfan S4C yr Egin yn enghraifft wych o’r gwaith parhaus ar y Fargen Ddinesig a fydd yn cyfuno yn y blynyddoedd nesaf i greu bron 10,000 o swyddi sy'n talu'n dda ac yn rhoi hwb £1.8 biliwn i’r economi ranbarthol.”

Mae patrwm mewnol yr adeilad 3,700 metr sgwâr wedi ei ganolbwyntio ar gyntedd cyhoeddus ac atriwm sy’n ymestyn dros y tri llawr.  Mae ffocws penodol ar ddarlledu a pherfformio ar y llawr gwaelod, mae S4C wedi ei lleoli ar y llawr cyntaf ac amrywiaeth o gwmnïau o’r diwydiannau creadigol wedi eu lleoli ar yr ail lawr.