Bydd Prifysgol Abertawe yn chwarae rhan allweddol wrth lywio gweithlu gweithgynhyrchu Cymru yn y dyfodol.

Bydd yn arwain prosiect peilot i hyrwyddo a gwella sgiliau gweithgynhyrchu batris sydd newydd ennill cyllid gan raglen Sgiliau a Thalentau Bargen Ddinesig Bae Abertawe. 

Nod y rhaglen hon, dan arweiniad Partneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol De-orllewin Cymru yw creu gweithlu hyfforddedig ar gyfer y dyfodol ar draws sectorau allweddol ynni, adeiladu, gweithgynhyrchu, materion digidol ac iechyd wrth iddynt ddatblygu.  

Mewn cydweithrediad â’r cwmnïau Batri Ltd, Deregallera Ltd ac ENSERV UK Ltd o Gymru, bydd academyddion o'r Brifysgol yn datblygu fframwaith o gyrsiau datblygiad proffesiynol byr i ymateb i fwlch a nodwyd o ran sgiliau ym maes gweithgynhyrchu batris a'i gadwyn gyflenwi.  

Bydd y cyrsiau'n meithrin sgiliau arbenigol o fewn 10 wythnos yn unig, gan ddefnyddio cyfuniad o ddysgu ar-lein a sesiynau ymarferol wyneb yn wyneb sy'n adlewyrchu amgylcheddau a chyfarpar diwydiannol yn y byd go iawn.

Eu bwriad yw meithrin gwybodaeth, sgiliau a llwybrau gyrfa yn y sector storio ynni, sy'n tyfu'n gyflym, lle mae galw mawr am weithlu arbenigol. Bydd y cyrsiau ar gyfer cyfranogwyr o blith myfyrwyr ar lefel mynediad/Safon Uwch ac aelodau'r gweithlu lleol (lefelau 3-5) o gefndiroedd proffesiynol ac addysgol amrywiol sy'n chwilio am hyfforddiant i'w paratoi ar gyfer swyddi. 

Mae'r rhaglen – sy'n unigryw yng Nghymru – wedi cael ei datblygu gyda phartneriaid diwydiannol i dargedu'r sgiliau y mae eu hangen mewn lleoliadau gweithgynhyrchu. Ar ôl y cam peilot dwy flynedd, y gobaith yw y caiff y rhaglen ei hehangu'n genedlaethol ac yn rhyngwladol, gan gynyddu cyfleoedd am swyddi a'r cyflenwad o bobl dalentog yng Nghymru.

Meddai'r Athro Serena Margadonna, arweinydd y prosiect, o'r Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg: “Drwy'r prosiect, bydd y Brifysgol yn parhau i gefnogi busnesau gweithgynhyrchu batris newydd a rhai sydd eisoes yn bodoli yng Nghymru a'u cadwyn gyflenwi. 

“Mae'r cwrs yn ymateb i fwlch a nodwyd yn helaeth yn y gweithlu, gan ganolbwyntio'n bennaf ar sgiliau cynhyrchu deunyddiau, gweithgynhyrchu ac integreiddio systemau a thrwy hynny fynd i'r afael ag anghenion rhanbarthol. Bydd yn helpu i sicrhau cynaliadwyedd y diwydiant presennol yng Nghymru a denu mewnfuddsoddiadau gan gyrff rhyngwladol a fyddai'n gallu manteisio ar weithlu lleol medrus.”

Ychwanegodd Jane Lewis, arweinydd y rhaglen Sgiliau a Thalentau: “Dyma brosiect hynod gyffrous a fydd yn meithrin sgiliau yn ein rhanbarth i gefnogi'r diwydiant gweithgynhyrchu batris a'r busnesau ynni ehangach dros y degawd nesaf. Rydyn ni'n edrych ymlaen at weithio gyda Serena a'i thîm a'r rhwydwaith busnes ehangach, er mwyn sicrhau y bydd de-orllewin Cymru'n ganolfan ragoriaeth o ran hyfforddiant ym maes batris ochr yn ochr â gweithlu ar gyfer darpar fuddsoddwyr.” 

Meddai Dr Peter Curran, Pennaeth Deunyddiau Batris Deregallera: “Mae Serena a'i thîm yn llygaid eu lle wrth lenwi bwlch brys o ran sgiliau yn y DU ac rydyn ni'n falch o gael y cyfle i lywio'r rhaglen i gydweddu ag anghenion byd diwydiant, o'n safbwynt ni. Rydyn ni'n edrych ymlaen at groesawu ein myfyrwyr cyntaf a rhoi profiad diwydiannol ymarferol iddyn nhw.” 

Ychwanegodd llefarydd ar ran ENSERV: “Bydd y rhaglen hyfforddiant hynod fedrus hon yn meithrin dealltwriaeth well o'r holl brosesau gweithgynhyrchu batris ac yn helpu myfyrwyr i ddod o hyd i'w rolau eu hunain yn y newidiadau sydd newydd ddechrau mewn ffatrïoedd batris mawr ac i fanteisio ar newidiadau anferth yn y dyfodol.” 

image