Mae'r broses o chwilio am ymgeiswyr o'r radd flaenaf wedi dechrau ar ôl i'r Cyd-bwyllgor, sy'n gwneud penderfyniadau ynghylch y Fargen Ddinesig, gymeradwyo disgrifiad swydd a chyflog ar gyfer y rôl newydd.

Bydd hysbyseb swydd yn cael ei chyhoeddi yn ystod yr wythnosau nesaf fel rhan o ymgyrch recriwtio helaeth.

Un o argymhellion yr adolygiadau a gynhaliwyd yn gynharach eleni ynghylch y Fargen Ddinesig oedd penodi cyfarwyddwr rhaglen annibynnol, gyda'r nod o gyflawni'r fargen yn gynt.

Cytunwyd ar gyflog cychwynnol o £88,474 i ddenu ymgeiswyr o'r safon uchaf.

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Cadeirydd Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe: “Mae'r Fargen Ddinesig werth £1.8 biliwn ac yn golygu dros 9,000 o swyddi sy'n talu'n dda i Dde-orllewin Cymru yn y blynyddoedd sydd i ddod, felly bydd hwn yn benodiad allweddol wrth i ni gychwyn ar raglen fuddsoddi a fydd yn rhoi hwb sylweddol i economi Dinas-ranbarth Bae Abertawe.

“Yn ogystal â sefydlu a rhedeg swyddfa rheoli arbenigol ar gyfer y Fargen Ddinesig, bydd y cyfarwyddwr rhaglen annibynnol hefyd yn cydgysylltu portffolio o brosiectau'r Fargen Ddinesig o fewn amserlenni y cytunwyd arnynt, a hynny ar yr un pryd ag archwilio cyfleoedd i ddenu rhagor o fuddsoddiad yn y sector.

“Dyna pam y byddwn yn chwilio am uwch arweinydd a phrofiad pendant a helaeth o reoli rhaglen a phrofiad llwyddiannus o gyflawni prosiectau mawr, cydweithio a rheoli rhanddeiliaid.

“Bydd y rôl hon yn rhoi cyfle i wneud cyfraniad sylweddol i raglen fuddsoddi a fydd yn gadael gwaddol hirdymor hynod o gadarnhaol drwy wneud y Ddinas-ranbarth yn lle mwy llewyrchus i fyw a gweithio.

“Nawr bod y disgrifiad swydd a'r cyflog wedi'u cymeradwyo gan y Cydbwyllgor, bydd ymgyrch recriwtio helaeth yn dilyn yn y misoedd nesaf.”

Gan adrodd i'r Cyd-bwyllgor, bydd y cyfarwyddwr rhaglen annibynnol hefyd yn datblygu ac yn cynnal perthnasoedd effeithiol â'r holl bartneriaid o'r sector cyhoeddus a phreifat ar draws y Ddinas-ranbarth, gan sicrhau bod rhaglen y Fargen Ddinesig yn gydgysylltiedig ac yn gydlynol.

Bydd swyddogaethau eraill yn cynnwys cyfleu gweledigaeth y Fargen Ddinesig ar draws Cymru a thu hwnt, a rheoli'r gwaith o gymeradwyo achosion busnes prosiectau'r Fargen Ddinesig.

Yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a'r sector preifat, mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn cael ei harwain gan bedwar awdurdod lleol Dinas-ranbarth Bae Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.