Mae Prifysgol Abertawe wedi bod yn arwain ar gais consortiwm am grant sydd gwerth dros £1.2 miliwn o dan raglen waith Science for Society, a allai hwyluso'r broses o gyflwyno'r prosiect mewn 60 o ysgolion rhyngwladol.

Mae disgyblion yn Iwerddon, yr Almaen, Slofenia, Gwlad Pwyl a Phortiwgal ymhlith y rheiny a allai gael budd os bydd y cais am Gydweithio ledled Ewrop ar Raglen Gwyddoniaeth a Pheirianneg yn llwyddiannus.

Fel rhan o brosiect parhaus o dan arweiniad Ysgol Nantgaredig yn Sir Gaerfyrddin, mae plant mewn wyth ysgol gynradd yn y sir yn argraffu yn 3D ac yn rhoi ceir tegan a reolir gan fatris at ei gilydd ar gyfer ras yn yr haf.

Mae Prifysgol Abertawe wedi benthyg argraffydd 3D i bob ysgol sy'n cymryd rhan yn y prosiect, ac mae nifer o ddelwriaethau ceir lleol yn noddi'r ras.

Nod y cynllun yw cyflwyno gweithgynhyrchu clyfar i blant o oedran ifanc, ac mae'n helpu i godi ymwybyddiaeth o brosiect mawr o'r enw 'Ffatri'r Dyfodol' a fydd yn cael ei ariannu'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe sydd gwerth £1.3 biliwn.

Dywedodd Dr Dimitris Pletsas o Goleg Peirianneg Prifysgol Abertawe: "Fel rhan o brosiect Ffatri'r Dyfodol bydd arbenigwyr peirianneg yn y brifysgol yn gweithio ochr yn ochr â gweithgynhyrchwyr rhanbarthol i gyflwyno gweithgynhyrchu clyfar megis argraffu 3D, deallusrwydd artiffisial a roboteg. Bydd hyn yn helpu i baratoi ein sector gweithgynhyrchu ar gyfer y pedwerydd chwyldro diwydiannol drwy ddarparu atebion gweithgynhyrchu clyfar a fydd yn rhoi hwb i gynhyrchiant ac yn diogelu swyddi.

"Ond mae'n hynod bwysig cyflwyno technolegau i'n plant sy'n sail i weithgynhyrchu clyfar megis argraffu 3D o oedran ifanc gan y bydd hyn yn helpu i roi'r sgiliau y bydd eu hangen arnynt er mwyn cael y swyddi sy'n talu'n dda y bydd y sector hwn yn eu creu yn y blynyddoedd nesaf.

"Mae'r ras ceir tegan a reolir gan fatris sydd wedi'u creu ag argraffydd 3D eisoes yn ysbrydoli cannoedd o ddisgyblion yn Sir Gaerfyrddin. Bellach - yn amodol ar gymeradwyaeth ein cais am grant mawr - gallai prosiect a ddechreuodd yn ne-orllewin Cymru fod yn rhan o addysg ledled Ewrop."

Ar ôl y ras ceir tegan, gofynnir i ddisgyblion yn yr ysgolion yn Sir Gaerfyrddin sy'n cymryd rhan yn y prosiect greu nodweddion lleol ag argraffydd 3D. Os bydd y cais am grant yn llwyddiannus, byddai'r fenter hon hefyd yn cael ei chyflwyno mewn ysgolion dramor.

Mae prosiect Ffatri'r Dyfodol yn un o 11 prosiect ledled de-orllewin Cymru sy'n cael eu hariannu'n rhannol gan y Fargen Ddinesig, a fydd yn creu dros 9,000 o swyddi o ansawdd da ac yn rhoi hwb o £1.8 biliwn i economi Rhanbarth Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn y blynyddoedd sydd i ddod.

Caiff y Fargen Ddinesig ei chyllido gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, y sector cyhoeddus a'r sector preifat. Mae'n cael ei harwain gan y pedwar awdurdod lleol yn y rhanbarth, y ddau fwrdd iechyd rhanbarthol, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.