Mae'r disgyblion sy'n cymryd rhan wedi defnyddio argraffydd 3D i greu ceir ar gyfer eu hysgol, yna buon nhw'n gosod y ceir at ei gilydd ac yn eu paentio cyn y ras fel rhan o brosiect Coleg Peirianneg Prifysgol Abertawe, a gafodd ei ddechrau yn Ysgol Gynradd Nantgaredig.

Mae pob un o'r ceir model wedi'i seilio ar ddyluniad a gafodd ei greu am y tro cyntaf gan Daniel Norée, sef dylunydd 3D o Sweden sydd wedi ennill gwobrau am ei waith.

Mae Prifysgol Abertawe wedi benthyg argraffydd 3D i bob ysgol sy'n cymryd rhan yn y prosiect, ac mae nifer o ddelwriaethau ceir lleol yn noddi'r ras.

Bydd Tîm Mazda yn cael ei gynrychioli gan Ysgol Gynradd Nantgaredig, Tîm Kia gan Ysgol y Dderwen, Tîm Ford gan Ysgol Teilo Sant, Tîm MG gan Ysgol Llanybydder, Tîm Citroen gan Ysgol Llanllwni, Tîm Volvo gan Ysgol Carreg Hirfaen, Tîm Hyundai gan Ysgol y Bedol a Thîm Subaru gan Ysgol Peniel.

Dywedodd Dr Dimitris Pletsas o Goleg Peirianneg Prifysgol Abertawe: "Mae technoleg megis argraffu 3D yn dod yn fwyfwy cyffredin ledled y byd y dyddiau hyn, ac mae rhai argraffwyr 3D wedi cael eu defnyddio i greu esgidiau ymarfer, offerynnau cerdd a thai hyd yn oed.

"Y math hwn o arloesi yw dyfodol gweithgynhyrchu, felly mae'n bwysig bod ein plant yn dysgu am y technolegau hyn o oedran ifanc.

"Ond fel rhan o'r prosiect Cylch Rasio 3D, dydy'r plant ddim wedi dysgu'n unig am argraffu 3D mewn ffordd hwyliog a diddorol. Maent hefyd wedi dysgu sgiliau pwysig eraill, gan gynnwys gwaith tîm, marchnata a chyd-drafod.

"Mae'r rhain ymhlith y sgiliau a fydd yn rhoi ein plant mewn sefyllfa dda o ran cael mynediad i swyddi a fydd yn cael eu creu yn y dyfodol, gan gynnwys y rheiny a fydd yn cael eu creu gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe, sy'n werth £1.3 biliwn.

Byddwn i'n annog pawb i alw draw ym Mharc Caerfyrddin ar 22 Mehefin i gefnogi'r plant sy'n cymryd rhan, ac sydd wedi dangos cymaint o ymroddiad a brwdfrydedd yn ystod y prosiect hwn.

Cadarnhawyd bod Cyngor Tref Caerfyrddin yn un o noddwyr y digwyddiad, a bydd busnesau lleol yn darparu byrbrydau a lluniaeth ar y diwrnod. Mae baneri'n cael eu creu ar gyfer pob un o'r ysgolion sy'n cymryd rhan, ynghyd â rhaglenni'r digwyddiad.

Mae'r delwriaethau ceir sy'n noddi'r ras yn cynnwys HG Bryer, Dryslwyn; Gravells, Cydweli; J & J Motors, Cross Hands; OC Davies, Caerfyrddin; Bassetts, Caerfyrddin; Lloyd Motors, Aberaeron; John F Hutchings Ltd a Howards, Caerfyrddin.