Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru bellach wedi cymeradwyo’r achos busnes ar gyfer prosiect Ardal Forol Doc Penfro, ac mae disgwyl iddo gynhyrchu £73.5 miliwn y flwyddyn i economi Dinas-ranbarth Bae Abertawe.

Mae Ardal Forol Doc Penfro yn cael ei harwain gan y sector preifat, gyda chefnogaeth gan Gyngor Sir Penfro. Disgwylir i'r prosiect greu mwy na 1,800 o swyddi yn ystod y 15 mlynedd nesaf.

Mae'r prosiect yn cynnwys pedair elfen:

Dywedodd y Cynghorydd David Simpson, Arweinydd Cyngor Sir Penfro: “Mae effaith Covid-19 wedi cynyddu pwysigrwydd Ardal Forol Doc Penfro yn fwy fyth, felly mae trigolion a busnesau Sir Benfro yn croesawu'r newyddion fod y prosiect wedi cael ei gymeradwyo.

"Bydd Ardal Forol Doc Penfro, sy'n werth £73.5 miliwn y flwyddyn, hefyd yn arwain at economi fwy gwydn yn y dyfodol, a hynny drwy drawsnewid Sir Benfro a'r Dinas-ranbarth yn ei gyfanrwydd yn enghraifft fyd-eang o'r arferion gorau ar gyfer arloesi ynni môr, di-garbon.
 
“Gyda cham un Ardal Profi Ynni'r Môr eisoes wedi agor y llynedd, rydym bellach yn barod ac yn ymrwymo'n llwyr i weithio'n gyflymach gyda'n partneriaid i gyflawni'r prosiect.

"Bydd y prosiect hwn yn gosod Sir Benfro a'r Dinas-ranbarth wrth galon diwydiant byd-eang sy'n tyfu, gan helpu i godi proffil y rhanbarth ymhellach fel lle ar gyfer busnes ac i fuddsoddi ynddo.”

Dywedodd Andy Jones, Prif Weithredwr Porthladd Aberdaugleddau: “Mae hwn yn gam cyffrous - nid yn unig i Sir Benfro a’r rhanbarth ond hefyd i’n heconomi, ein cymunedau a’n hamgylchedd wrth i ni weithio tuag at dargedau datgarboneiddio sero net.

“Yn ogystal â chefnogi prosiectau eraill ar draws diwydiannau'r economi las, bydd Ardal Forol Doc Penfro yn creu’r amodau cywir i gefnogi twf diwydiant ynni'r môr.


“Bydd datblygwyr, sydd eisoes wedi’u denu gan adnoddau ynni Sir Benfro a chadwyn gyflenwi sydd â sgiliau uchel, yn elwa o ymgyrch Ardal Forol Doc Penfro i gynyddu arloesi ac effeithlonrwydd gweithredol i’r eithaf wrth iddynt geisio lleihau cost o ran ynni'r môr. Bydd hefyd yn gweithredu fel prosiect sylfaenol a fydd yn cefnogi twf mentrau newydd yn y rhanbarth.

"Yn bersonol, rwyf wrth fy modd mai Doc Penfro fydd cartref y diwydiant newydd hwn. Yn hanesyddol, mae’n dref sydd wedi cefnogi’r genedl pan fo angen, a bydd Doc Penfro wrth galon diwydiant newydd sy’n bwysig yn fyd-eang.”

Dywedodd Lee Waters, Dirprwy Weinidog Llywodraeth Cymru dros yr Economi a Thrafnidiaeth: “Mae’r cyhoeddiad hwn yn gam pwysig ar gyfer Bargen Ddinesig Bae Abertawe. Mae hefyd yn dangos yn glir ein hymrwymiad i ddatblygu Canolfan Ragoriaeth ar gyfer technoleg forol yma yng Nghymru.

“Mae'r pandemig coronafeirws wedi cael effaith enfawr ar ein heconomi a bydd prosiectau fel Ardal Forol Doc Penfro yn allweddol i adfywio y twf economaidd a oedd yn bod cyn y feirws.

"Fel Llywodraeth Cymru, byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid i gyflwyno'r Fargen Ddinesig er budd ein rhanbarth a'i bobl."

Dywedodd David TC Davies, Gweinidog Llywodraeth y DU dros Gymru: “Wrth i ni geisio adfywio’r economi yn sgil y pandemig coronafeirws, bydd datblygu prosiectau ynni glân yn helpu i ysgogi adferiad economaidd gwyrdd a gwydn a chreu swyddi newydd.

"Mae prosiect Ardal Forol Doc Penfro yn ddatblygiad pwysig o ran datblygu Bargen Ddinesig Bae Abertawe a fydd yn galluogi'r rhanbarth ehangach i elwa ar y buddsoddiad ariannol ac ar brosiectau amrywiol yn y cynllun, yn ogystal â'r cyfleoedd a ddaw yn sgil economi carbon isel yn y dyfodol."

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Cadeirydd Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe: "Dyma newyddion gwych i Sir Benfro, y rhanbarth a'n Bargen Ddinesig.


“Disgwylir i fwy o brosiectau gael eu cymeradwyo yn derfynol cyn bo hir, a fydd hyn yn bwysig tu hwnt i helpu ail gychwyn ein heconomi yn dilyn y pandemig coronafeirws.”

Ardal Forol Doc Penfro yw'r trydydd prosiect Bargen Ddinesig Bae Abertawe i gael ei gymeradwyo. Y ddau brosiect sydd eisoes wedi cael eu cymeradwyo yw Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a'r Glannau, a Chanolfan S4C Yr Egin, sef hwb creadigol a digidol ym Mhrifysgol Cymru'r Drindod Saint David, yng Nghaerfyrddin.

O gymeradwyo'r achos busnes, golyga hyn y gall Ardal Forol Doc Penfro bellach ddechrau defnyddio'r £18 miliwn o gyllid y mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru eisoes wedi'i ryddhau i raglen y Fargen Ddinesig yn ei chyfanrwydd.

Pan fydd y Dinas-ranbarth wedi cwrdd â'r holl argymhellion sy'n deillio o adolygiadau y Fargen Ddinesig, bydd 18 miliwn pellach o gyllid ar gael cyn bo hir o raglen y Fargen Ddinesig, gyda gwaith manwl yn parhau.

Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe, sy'n werth £ 1.3 biliwn, yn cael ei hariannu gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a'r sector preifat.

Mae Ardal Forol Doc Penfro yn ceisio cael £28 miliwn o'r Fargen Ddinesig yn y blynyddoedd i ddod, a fydd yn helpu i gael £32 miliwn arall o arian cyhoeddus a phreifat.

Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn cael ei harwain gan Gyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro a Chyngor Abertawe, mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, Prifysgol y Drindod Dewi Sant, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.