Ar ôl cael cymeradwyaeth yng nghyfarfod Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe, bydd achos busnes y rhaglen Cefnogi Arloesi a Thwf Carbon Isel gwerth £58.7 miliwn yn awr yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar gyfer cymeradwyaeth derfynol.

Rhagwelir y bydd y rhaglen, sy'n canolbwyntio'n bennaf ar ardal harbwr Port Talbot, yn werth £6.2 miliwn y flwyddyn i'r economi leol ar ôl i'r holl brosiectau gael eu rhoi ar waith. Bydd dros 1,300 o swyddi yn cael eu creu neu eu diogelu, a bydd o leiaf 30% o'r rhain yn newydd.

Mae'r rhaglen Cefnogi Arloesi a Thwf Carbon Isel, a gaiff ei harwain gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot, yn cynnwys pedair elfen ryng-gysylltiedig:

Ceisir cyfraniad o £47.7 miliwn gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe, a bydd gweddill y cyllid yn cael ei rannu rhwng y sectorau cyhoeddus a phreifat.

Dywedodd y Cynghorydd Rob Jones, Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot: "Mae'r portffolio hwn o brosiectau yn werth miliynau o bunnoedd a bydd yn creu neu'n diogelu dros 1,300 o swyddi yng Nghastell-nedd Port Talbot, felly mae cael cefnogaeth gan Gyd-bwyllgor y Fargen Ddinesig yn gam mawr ymlaen.

"Mae Castell-nedd Port Talbot yn cynhyrchu mwy o ynni adnewyddadwy nag unrhyw awdurdod lleol arall yng Nghymru, ond rydym yn awyddus i adeiladu ymhellach ar ein henw da am ragoriaeth amgylcheddol.

"Bydd elfen datgarboneiddio ein rhaglen Cefnogi Arloesi a Thwf Carbon Isel yn ein galluogi i gyflawni'r nod hwnnw drwy nifer o brosiectau trawsnewidiol, wrth ymateb i'r argyfwng hinsawdd a ddatganwyd gan gynghorau rhanbarthol a Llywodraeth Cymru.

"Wrth helpu i ddiogelu diwydiannau dur a metelau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol at y dyfodol, bydd gan y Ganolfan Arloesi Dur Genedlaethol hefyd rôl bwysig i'w chwarae, ochr yn ochr â dros 18,000 metr sgwâr newydd o le i fusnesau sy'n defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf yn Ardal Fenter Glannau Port Talbot i fodloni'r galw amlwg gan fusnesau yn y sectorau allweddol.

"Rydym yn annog Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ystyried a chymeradwyo'r rhaglen hon o brosiectau cyn gynted ag y bo modd, er mwyn i ni allu dechrau darparu er lles trigolion a busnesau lleol."

Cyflwynir y rhaglen yn ffurfiol ar gyfer cymeradwyaeth ar ôl i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ryddhau’r £18 miliwn cyntaf o gyllid y Fargen Ddinesig, yn amodol ar gymeradwyo dau brosiect - Yr Egin yng Nghaerfyrddin, ac Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a'r Glannau.

Mae prosiect Ardal Forol Doc Penfro, sydd â'r nod o roi hwb i'r broses o ddatblygu a gweithredu ynni'r môr yn Ne-orllewin Cymru, hefyd wedi cael ei gyflwyno'n ffurfiol i'r ddwy lywodraeth ar gyfer cymeradwyaeth derfynol.

Ymhlith y prosiectau eraill a fydd yn cael eu cyflwyno yn ystod y misoedd nesaf y mae Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer - prosiect rhanbarthol ar gyfer cartrefi sy'n effeithlon o ran ynni a arweinir gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot.

Yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a'r sector preifat, mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn cael ei harwain gan Gyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro, a Chyngor Abertawe, mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Mae'r rhaglen fuddsoddi hon yn werth £1.8 biliwn i economi Dinas-ranbarth Bae Abertawe a bydd yn creu dros 9,000 o swyddi yn y rhanbarth yn y blynyddoedd i ddod.