Mae un o brosiectau trawsnewid mwyaf erioed canol dinas Abertawe wedi cael ei gymeradwyo.

Rhoddwyd caniatâd cynllunio llawn ar gyfer y cynllun Cam 1 gwerth £120m yn Abertawe Ganolog.

Mae'n golygu y bydd gwaith adeiladu'n dechrau cyn bo hir ar arena dan do ddigidol â lle i 3,500 o bobl, parc arfordirol, plaza digidol, pont dirnod i gerddwyr, cartrefi newydd ac adeiladau ar gyfer busnesau manwerthu, bwyd a diod.

Mae'r prosiect yn debygol o fod yn gatalydd ar gyfer adfywio'r ddinas gyfan.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, "Mae hwn yn ddiwrnod mawr i Abertawe. Mae penderfyniad terfynol heddiw yn caniatáu i ni fwrw ymlaen yn gyflym ag un o brosiectau trawsnewid mwyaf erioed ein dinas.

"Ein harena gwbl gyfoes i 3,500 o bobl fydd y lleoliad cyntaf o'r fath yn y DU i'w orchuddio â chroen digidol dynamig.

"Bydd yn atyniad unigryw ar gyfer Abertawe a fydd yn creu cannoedd o swyddi newydd ac yn rhoi hwb blynyddol sylweddol i'r economi leol.

"Bydd yn ein helpu i ddenu mwy o westai, manwerthwyr, bwytai a mannau hamdden eraill."