Mae aelodau o gymuned Sir Benfro wedi bod yn llwyddiannus mewn cystadleuaeth i enwi pedwar adeilad newydd sy’n cael eu creu i wasanaethu’r diwydiant ynni adnewyddadwy yn Sir Benfro, diwydiant sy’n tyfu yn yr ardal. Mae’r rhandai, sydd ynghlwm wrth y Siediau Awyrennau Sunderland hanesyddol ym Mhorthladd Penfro, yn cael eu hailddatblygu’n swyddfeydd a gweithdai modern a disgwylir i’r gwaith gael ei gwblhau erbyn Gwanwyn 2023.

 

Cynhaliwyd cystadleuaeth gyhoeddus i roi cyfle i bobl enwi’r adeiladau newydd, a denwyd nifer o awgrymiadau creadigol. Y beirniaid oedd Cadeirydd Porthladd Aberdaugleddau Chris Martin, Maer Doc Penfro y Cynghorydd Joshua Beynon, Rik Saldanha o Ymddiriedolaeth Treftadaeth Doc Penfro, Phil Collins o Ganolfan Dreftadaeth Forwrol Gorllewin Cymru a Tim James, sydd bellach yn Celtic Sea Power.

 

Roedd y panel wrth eu bodd gyda’r amrywiaeth o geisiadau ac fe awgrymwyd yr enwau buddugol, Erebus House, Catalina House, Falcon House ac Oleander House gan David Lockwood o Ymddiriedolaeth Treftadaeth Doc Penfro, Marie Sampson, Victoria Allen a Tyler Streitberger yn y drefn honno.

 

Dywedodd, Steve Edwards, Cyfarwyddwr Masnachol Porthladd Aberdaugleddau “Mae’r strwythurau hyn yn dyddio’n ôl i ddechrau’r 1990au felly roeddem yn teimlo ei bod hi’n bwysig cydnabod a dathlu eu treftadaeth. Mae gwaith yn mynd rhagddo’n dda i roi bywyd newydd i’r rhandai a’u gwneud yn addas i ddiwydiant. Mae prosiect ehangach Ardal Forol Doc Penfro yn gyfle anferth i greu cannoedd o swyddi â chyflog da yn y gymuned, nid yn unig yn y sector ynni adnewyddadwy ond ar draws y gadwyn gyflenwi, felly rydym yn wirioneddol gyffrous fod y gwaith ar y cam hwn o’r datblygiad wedi dechrau.”

Mae disgwyl i Ardal Forol Doc Penfro gynhyrchu £73.5 miliwn bob blwyddyn i economi’r rhanbarth, gan greu cyfleoedd ar gyfer tua 1,800 o swyddi i weithlu heddiw a’r genhedlaeth nesaf, a chyfrannu 1,000MW at dargedau datgarboneiddio Cymru a’r DU.

Prosiect partneriaeth rhwng Porthladd Aberdaugleddau, Offshore Renewable Energy Catapult, Ynni Môr Cymru a Celtic Sea Power yw Ardal Forol Doc Penfro. Fe’i hariennir gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU drwy Fargen Ddinesig Bae Abertawe, a thrwy’r sectorau cyhoeddus a phreifat. Mae hefyd yn cael ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth am y cyfleusterau sydd ar gael yn y rhandai, ewch i www.pembrokeport.com/property

image