Mae Phil Ryder, Ian Williams, Amanda Burns a Hollie Thomas yn ymuno â thîm dan arweiniad Jonathan Burnes, Cyfarwyddwr Portffolio'r Fargen Ddinesig.

Phil yw Rheolwr Swyddfa Rheoli'r Portffolio, Ian yw Rheolwr Datblygu'r Portffolio, Amanda yw'r Uwch-swyddog Cymorth Portffolio, a Hollie yw Cynorthwyydd Swyddfa Rheoli'r Portffolio.

Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn fuddsoddiad o £1.3 biliwn mewn portffolio o brosiectau sylweddol ledled Dinas-ranbarth Bae Abertawe, sy'n cynnwys Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe.

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Cadeirydd Cyd-bwyllgor y Fargen Ddinesig: "Daw Phil, Ian, Amanda a Hollie â phrofiad a sgiliau sylweddol i gryfhau ymhellach Swyddfa Rheoli Portffolio'r Fargen Ddinesig, a fydd yn helpu i ysgogi hyd yn oed rhagor o gynnydd yn y blynyddoedd i ddod er budd trigolion a busnesau ledled Dinas-ranbarth Bae Abertawe.

"Bydd buddsoddiad y Fargen Ddinesig yn creu miloedd o swyddi sy'n talu'n dda, tra'n rhoi hwb a hanner i'r economi ranbarthol a rhagor o gyfleoedd i'n pobl ddilyn eu gyrfaoedd yn Ne-orllewin Cymru.

"Mae llawer iawn o waith ar Fargen Ddinesig Bae Abertawe wedi'i wneud yn 2020 i sicrhau bod ei phrosiectau'n barod i ddechrau arni cyn gynted â phosib, a fydd yn helpu i gyflymu adferiad economaidd y rhanbarth yn dilyn Covid-19."

Mae cynnydd diweddar Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn cynnwys cael cymeradwyaeth y Cyd-bwyllgor ar gyfer prosiect Pentre Awel yn Llanelli, ac mae achos busnes y prosiect bellach wedi cael ei gyflwyno i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i'w gymeradwyo'n derfynol.

Daw hyn wedi i dri phrosiect y Fargen Ddinesig gael eu cymeradwyo gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru – Ardal Forol Doc Penfro, canolfan greadigol a digidol Yr Egin yng Nghaerfyrddin, a phrosiect Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a’r Glannau sy'n cynnwys arena dan do.

Bydd dau brosiect arall y Fargen Ddinesig a gymeradwywyd gan y Cyd-bwyllgor hefyd yn cael eu hystyried yn fuan gan y ddwy lywodraeth i'w cymeradwyo'n derfynol – y prosiect Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer rhanbarthol, a'r prosiect Cefnogi Arloesedd a Thwf Carbon Isel sydd ar y gweill ar gyfer Castell-nedd Port Talbot.

Mae gwaith datblygu achosion busnes manwl yn mynd rhagddo ar gyfer y tri phrosiect arall sydd hefyd i'w hariannu'n rhannol gan y Fargen Ddinesig – y prosiect seilwaith digidol rhanbarthol, y fenter sgiliau a thalent ranbarthol, a phrosiect campysau gwyddorau bywyd, chwaraeon a llesiant Abertawe.

Yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a'r sector preifat, mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn cael ei harwain gan Gyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro, a Chyngor Abertawe, mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.