Wrth siarad mewn cynhadledd a drefnwyd gan 4 The Region yng nghanol dinas Abertawe, mae Paul Harwood cyd-sylfaenydd TechHub Abertawe, wedi croesawu'r newyddion fod prosiect Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a’r Glannau wedi cael ei argymell i'w gymeradwyo ar unwaith.

Mae Mr Harwood yn dweud y bydd y Fargen Ddinesig yn helpu i adeiladu ar y gwaith parhaus yn Abertawe i roi hwb ychwanegol i sectorau digidol a thechnegol y ddinas. Mae hyn yn cynnwys datblygu egin-fusnesau technoleg ar y stryd fawr â champws newydd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn SA1.

Mae prosiect Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a’r Glannau yn cynnwys arena dan do ddigidol a plaza digidol, yn ogystal â mannau newydd o safon uchel ar gyfer busnesau.

Daeth adolygiad annibynnol, a gomisiynwyd gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, ar y Fargen Ddinesig i'r casgliad bod yr achos busnes ar gyfer y prosiect yn 'addas i'r diben', yn ogystal ag achos busnes datblygiad y sector creadigol 'Yr Egin' yng Nghaerfyrddin.

Dylai cyllid y Fargen Ddinesig gael ei gymeradwyo cyn gynted â phosib ar gyfer y ddau brosiect hyn, yn ôl yr adolygiad.

Dywedodd Mr Harwood: "Mae hyn yn newyddion ardderchog i Abertawe. Mae'n gyfle gwych i'r ddinas allu cael hyd i fusnesau newydd ac arbenigedd newydd. Bydd y Fargen Ddinesig yn rhoi cyfle i sefydlu diwydiannau ar raddfa fyd-eang.

"Mae angen arena o'r maint hwn ar Abertawe erioed, er mwyn cynnal cynadleddau, digwyddiadau a bandiau - felly bydd yn ein rhoi ar y map. Mae'n gyfle gwych i dyfu'r ddinas.

"Ond mae gan y Fargen Ddinesig botensial i roi hwb ychwanegol i'r sector technoleg yn Abertawe hefyd. Rydym wedi creu cannoedd o swyddi yn TechHub, ac mae miliynau wedi'u buddsoddi yn y cwmnïau yr rydym wedi eu creu. Mae Abertawe'n le ardderchog i'r sector technoleg - mae pobl yn dod yma o bob rhan o'r byd oherwydd mae'r ardaloedd sydd gennym mor hardd ac mae'r bobl mor gyfeillgar. Mae hyn yn gyfle gwych yn barod, ond bydd y Fargen Ddinesig yn cynyddu hynny ymhellach."

Mae Gareth Davies, Cyfarwyddwr Datblu  Coastal Housing Group, hefyd wedi croesawu cynlluniau ar gyfer arena dan do ddigidol a mannau o safon uchel ar gyfer busnesau.

Dywedodd: "Bydd yr arena'n hynod o bwysig i Abertawe - bydd yn cael effaith enfawr. Mae cyfleuster o'r fath wedi bod ar goll o ganol y ddinas ers gormod o amser. Mae Abertawe wedi profi ei bod yn lle gwych i gynnal digwyddiadau yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys y sêr mawr a gymerodd ran yn Biggest Weekend BBC yr haf diwethaf.

"Rydym yn awyddus hefyd i sicrhau fod graddedigion sy'n gadael y ddwy brifysgol yn Abertawe eisiau aros yn yr ardal i ddatblygu eu gyrfaoedd ac i ymgartrefu yma.

"Rydym angen gwneud ein gorau i feithrin y dalent sy'n dod o'r prifysgolion hyn. Mae hynny'n cynnwys darparu llefydd o safon uchel i weithio gyda'r isadeiledd digidol sydd ei angen, yn ogystal â chyfleoedd i ddod o hyd i lety fforddiadwy - dyna sut y gall Coastal Housing Group helpu.

Dywedodd Russell Greenslade, Prif Weithredwr Ardal Gwella Busnes (AGB) Abertawe: "Rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at weld prosiect Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a’r Glannau yn dechrau a gweld y craeniau yn yr awyr. Bydd yr arena yn arwain at fwy o fuddsoddi mewn adwerthu oherwydd economi ymwelwyr busnes, ond mae angen mwy o swyddfeydd a mwy o bobl i fyw ac i weithio yng nghanol ein dinas hefyd. Dyna beth mae ein busnesau yn dweud wrthym.

"Bydd y prosiect yn gwella economi a bywiogrwydd yr ardal - nid o 9am tan 5pm yn unig, ond gyda'r nos hefyd."

Bydd Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn cyllido'n rhannol i 11 o brosiectau mawr ledled Dinas-ranbarth Bae Abertawe, sy'n cynnwys Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe. Mae'n cael ei hariannu gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a'r sector preifat.

Mae rhaglen fuddsoddi'r Fargen Ddinesig yn cael ei harwain gan y pedwar awdurdod lleol rhanbarthol mewn partneriaeth â'r ddau fwrdd iechyd rhanbarthol, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.