Cyn hir, bydd cannoedd o ddisgyblion Sir Gaerfyrddin yn dysgu am Fargen Ddinesig Bae Abertawe, sydd werth £1.3 biliwn.

O fis Medi ymlaen, bydd y Fargen Ddinesig yn cael ei chynnwys fel rhan o fodiwl menter a chyflogadwyedd Bagloriaeth Cymru mewn ysgolion ar draws y Sir.

Yn dilyn cyfnod prawf yn Sir Gaerfyrddin, mae'n bosibl y bydd y cynllun yn cael ei estyn yn y dyfodol i ysgolion yn Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Sir Benfro.

Cymhwyster ar gyfer disgyblion rhwng 14 a 19 oed yng Nghymru yw Bagloriaeth Cymru. Nod y cymhwyster yw helpu myfyrwyr i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau a fydd eu hangen arnynt yn y brifysgol ac yn y gweithle.

Mae cyfnod prawf Sir Gaerfyrddin yn rhan o'r Fenter Sgiliau a Thalentau, sy'n cael ei harwain gan Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol De-orllewin a Chanolbarth Cymru. Bydd y fenter yn tanategu holl brosiectau'r Fargen Ddinesig, gan helpu i sicrhau bod gan bobl gyfle i weithio yn y miloedd o swyddi da a fydd yn cael eu creu mewn sectorau megis gwyddor bywyd, ynni, gweithgynhyrchu clyfar a'r diwydiannau creadigol.

Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin: "Bydd Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn creu bron 10,000 o swyddi newydd o ansawdd uchel ar draws y Ddinas-ranbarth, ond mae'n hollbwysig bod pobl leol yn elwa ar y cyfleoedd hyn i gael swyddi.

"Dyna pam fydd Menter Sgiliau a Thalentau a arweinir gan Gyngor Sir Caerfyrddin yn cefnogi holl brosiectau'r Fargen Ddinesig, gan gynnwys Pentref Llesiant a Gwyddor Bywyd gwerth £200m yn Llynnoedd Delta, Llanelli, a chlwstwr creadigol Yr Egin ar gampws Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin.

"Yn amodol ar fod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cymeradwyo achos busnes, bydd y Fenter Sgiliau a Thalentau yn sicrhau bod plant ar draws y Dinas-ranbarth yn cael cyfle i weithio yn y swyddi sy'n cael eu creu gan y Fargen Ddinesig, trwy ddarparu cyrsiau addas mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion sy'n cyd-fynd â phrosiectau'r Fargen Ddinesig, gan gynnwys gwyddor bywyd, technoleg ddigidol, adeiladu, ymchwil a datblygu ynni cynaliadwy.

"Bydd treialu'r Fargen Ddinesig fel rhan o Fagloriaeth Cymru yn ysgolion Sir Gaerfyrddin o fis Medi yn codi ymwybyddiaeth o'r buddsoddiad sylweddol sydd ar fin cael ei wneud yn ne-orllewin Cymru, gan helpu i roi gwybod i fyfyrwyr ac athrawon am y math o brosiectau, swyddi a chyfleoedd lleol ac arloesol sydd ar y gweill."

Mae prosiectau Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn cael eu hariannu, yn amodol ar gymeradwyo achosion busnes, gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a'r sector preifat. Dros y 15 mlynedd nesaf, bydd y Fargen Ddinesig yn rhoi hwb o £1.8 biliwn i'r economi ranbarthol.

Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn cael ei harwain gan y pedwar awdurdod lleol yn y rhanbarth, sef Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Abertawe, Cyngor Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Sir Penfro, ynghyd â Byrddau Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a Hywel Dda, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a phartneriaid o'r sector preifat.

Mae prosiectau eraill y Fargen Ddinesig yn cynnwys Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a’r Glannau, a fydd yn cynnwys arena dan do ddigidol, pentref digidol ar gyfer busnesau technegol, a datblygiad 'pentref blychau' ar gampws SA1 Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ar gyfer busnesau sy'n dechrau. Hefyd cynllunnir prosiect Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer ar gyfer y Dinas-ranbarth yn ei gyfanrwydd, ac y bydd pob prosiect yn cael ei gynnal gan seilwaith digidol o'r radd flaenaf.