Bydd y ffrwd waith hon yn hwyluso'r broses o gyflwyno 4G/5G ar draws y rhanbarth, gan fynd i'r afael â signal ffonau symudol a materion capasiti. Rydym yn cydweithio â phrosiectau a rhaglenni eraill y Fargen Ddinesig i greu canolfannau rhagoriaeth 5G ar gyfer sectorau allweddol, fel iechyd a llesiant, diwydiannau creadigol, ymchwil a datblygu, i wireddu manteision 5G, manteisio'n llawn ar y defnydd o Ryngrwyd Pethau a mabwysiadu technoleg newydd.

Rhwydwaith Gwledig a Rennir

Mae'r seilwaith a rennir sy'n cael ei roi ar waith drwy'r rhaglen hon gan Lywodraeth y DU yn hanfodol i leihau mannau rhannol wan a hollol wan mewn rhai o'r ardaloedd â'r gwasanaeth gwaethaf yn ein rhanbarth.

Rydym yn cydweithio'n agos â chymunedau a fydd yn elwa o'r rhaglen i sicrhau eu bod yn sylweddoli pa gyfleoedd a ddaw yn sgil hyn i'w hardal a bod y rhaglen yn sensitif o ran amser, a gwrando ar unrhyw bryderon sydd ganddynt.

Mae ein Rheolwyr Seilwaith y Genhedlaeth Nesaf yn cysylltu â gweithredwyr rhwydweithiau symudol, eu hasiantau, Llywodraeth y DU ac adrannau mewnol awdurdodau lleol i hwyluso pob prosiect adeiladu. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar wefan y Rhwydwaith Gwledig a Rennir. Gall ein timau ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.

Cyflymydd Cysylltedd Digidol - Asedau'r sector cyhoeddus

Rydym yn awyddus i weithio gyda gweithredwyr rhwydweithiau symudol a chynhalwyr niwtral i fynd i'r afael ag unrhyw faterion o ran capasiti rhwydweithiau symudol a nodwyd yn y rhanbarth. Rydym yn gweithio gyda'n partneriaid awdurdod lleol i ddatblygu proses gaffael symlach ar gyfer defnyddio asedau'r sector cyhoeddus i roi seilwaith symudol ar waith.

Rhwydwaith Arloesi Digidol

Rydym yn rhoi 240+ o byrth LoRaWAN ar waith ledled y rhanbarth a fydd yn galluogi'r sector preifat a'r sector cyhoeddus i dreialu'r defnydd o dechnoleg Rhyngrwyd Pethau.

Canolfannau Rhagoriaeth 5G

Rydym yn gweithio gyda phrosiectau a rhaglenni partner i sefydlu canolfannau rhagoriaeth 5G sy'n targedu sectorau allweddol sy'n economaidd arwyddocaol. Mae nifer o gyfleoedd yn cael eu harchwilio, gan gynnwys y canlynol:

  • Matrics Arloesi, Abertawe
    Ymchwil a chyfnewid gwybodaeth i gysylltu â chefnogi, cwmnïoedd traws-sector, busnesau bach a chanolig, entrepreneuriaid, a buddsoddwyr i ysgogi twf masnachol ar gyfer economi Cymru sydd wedi’i grymuso’n ddigidol.
  • Ardal Forol Doc Penfro
    Bydd Ardal Forol Doc Penfro yn darparu'r cyfleusterau, y gwasanaethau a'r lleoedd sydd eu hangen i sefydlu canolfan o'r radd flaenaf ar gyfer peirianneg forol. Bydd ymgyrch Ardal Forol Doc Penfro i gynyddu arloesi ac effeithlonrwydd gweithredol i’r eithaf yn ceisio lleihau cost ynni'r môr, gan fod yn rhaglen sylfaenol a fydd yn cefnogi twf mentrau newydd yn y rhanbarth.
  • Coleg Amaethyddol Gelli Aur
    Mae fferm campws Gelli Aur ger Llandeilo yn cynnig cyrsiau amaethyddol, coedwigaeth, rheolaeth cefn gwlad a pheirianneg tir. Fel rhanddeiliad allweddol yn y rhanbarth, rydym hefyd yn archwilio cyfleoedd buddsoddi mewn 5G / IoT/ dysgu trochi a thechnoleg amaethyddol eraill gyda'r coleg.
  • Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin
    Canolfan greadigol ddigidol a diwylliannol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin ar gyfer y diwydiannau digidol a chreadigol, gan hyrwyddo statws y Gymraeg a diwylliant Cymreig. Bydd 5G yn galluogi prosesu data yn gyflymach i alluogi cyflwyno profiadau trochi a darparu profiadau byw o ansawdd uchel ar draws y ganolfan, sydd hefyd yn bencadlys cenedlaethol ar gyfer S4C, prif ddarlledwr teledu Cymraeg Cymru.
  • Pentre Awel – Datblygiad iechyd a llesiant
    Bydd Pentre Awel yn darparu cyfleusterau cyhoeddus, academaidd, busnes ac iechyd ar un safle i hybu cyflogaeth, addysg, darpariaeth hamdden, ymchwil a darpariaeth iechyd, a sgiliau a hyfforddiant. Bwriedir i'r prosiect gynnwys cyfleusterau gofal integredig ac adsefydlu corfforol er mwyn galluogi'r gwaith o brofi a threialu technolegau gwyddor bywyd sydd â'r nod o wella byw'n annibynnol a byw â chymorth.
  • Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer – Technoleg cartrefi clyfar
    Hwyluso'r gwaith o fabwysiadu'r dull Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer i integreiddio prosesau dylunio sy'n effeithlonrwydd o ran ynni a thechnolegau adnewyddadwy yn y gwaith o ddatblygu cartrefi newydd a rhaglenni ôl-ffitio a gynhelir gan y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector. Bydd hyn yn mynd i'r afael â thlodi tanwydd, gan helpu preswylwyr i arbed arian ar eu biliau ynni. Bydd 5G yn galluogi cenhedlaeth newydd o atebion i fonitro a darparu data byw ar gyfer tai ynni effeithlon.
  • Campysau Prifysgol Abertawe – gwyddorau bywyd, iechyd a chwaraeon
    Y weledigaeth ar gyfer y prosiect Campysau yw darparu dwy fenter ategol ar draws dau safle mewn dau gam (Singleton a Threforys yn Abertawe) sy'n ychwanegu gwerth at y sectorau gwyddor bywyd, iechyd a chwaraeon rhanbarthol. Bydd hyn yn cefnogi ymyriadau ac arloesedd ym maes gofal iechyd a meddyginiaeth i helpu i atal salwch, datblygu triniaethau gwell a gwella gofal i gleifion, gan hybu chwaraeon drwy wyddor chwaraeon o'r radd flaenaf a chyfleusterau newydd.
  • Cefnogi Arloesedd a Thwf Carbon Isel
    Bydd y rhaglen yn sicrhau swyddi a thwf cynaliadwy yn Ninas-ranbarth Bae Abertawe i gefnogi'r gwaith o greu economi di-garbon ac arloesol, diolch i bartneriaeth rhwng y llywodraeth, y byd academaidd a diwydiant. Gall technoleg 5G drosoli ei nodweddion sylfaenol o gyfaint uchel, cyflymder uchel a dibynadwyedd ar draws nifer fawr o ddyfeisiau i ganiatáu dadansoddiad amser real a gwneud penderfyniadau optimaidd ar draws yr ecosystem ynni, gan arwain at well defnydd o ynni a ffyrdd newydd o feddwl i'w datblygu atebion a thechnolegau newydd.

Os hoffech wybod mwy am unrhyw un o'r prosiectau cyffrous hyn, cysylltwch â ni.